Croatia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
UE
→‎Hanes Croatia: Ychwanegu iso 3 llythyren, replaced: presennoldeb → presenoldeb using AWB
Llinell 57:
== Hanes Croatia ==
{{prif|Hanes Croatia}}
Credir fod '''hanes Croatia''' yn cychwyn gyda'r [[Illyria]]id ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwyth [[Celtiaid|Celtaidd]] y [[Boii]] yn [[Pannonia]] cyn diwedd y mileniwn cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaith [[Illyria]] gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir fel [[Pula]], [[Split]] a [[Dubrovnic]] i gyd yn hen iawn. [[Dalmatia]] a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presennoldebpresenoldeb yw Palas [[Diocletian]] yn Split (300 OC) a'r [[amffitheatr]] fawr yn Pula.
 
Cyrhaeddodd y [[Croatiaid]] (llwyth [[Slafiaid|Slafaidd]]) yn heddychol fel milwyr hur i'r Rhufeinwyr o'r seithfed ganrif ymlaen<!-- SUT ALL HYN FOD YN WIR?! --> mewn gwlad o ddiboblogwyd gan y "barbariaid". Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig dan [[Vladislav]]; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siarad [[Lladin]] ac wedyn [[Eidaleg]] am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oedd [[Tomislav]], a goronwyd yn 925.