Antigone (Anouilh): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Drama gan y dramodydd Ffrangeg [[Jean Anouilh]] (1910-1987) a gyhoeddwyd ym [[1942]] yw '''''Antigone'''''. Un o'i 'dramâu tywyll newydd' ydyw, ond seilwyd hi ar hen glasuron Groeg, yn arbennig y ddrama o'r un enw, ''[[Antigone (Soffocles)|Antigone]]'' gan [[Soffocles]]. Ystyr ei henw yw 'heb ildio' neu 'heb ymgrymu'.
 
Mae fersiwn Ffrangeg arall o ''Antigone'' (1922), gan [[Jean Cocteau]] ymhlith nifer fawr a addasiadau o'r gwaith gwreiddiol.
 
==Disgrifiad==
Ym mytholeg Roeg, roedd [[Antigone]] yn ferch i [[Oedipus]] (Brenin [[Thebau]]) a [[Jocasta]]. Bu i Jocasta, ei mam, lladd ei hun, a thynnodd Oedipus ei lygaid ei hun drwy anffawd a ddaeth i'r teulu. Crwydrodd Antigone a'i thad fel cardotwyr wedyn ond dychwelodd hi i [[Thebes|Thebau]] wedi ei farwolaeth. Yno roedd ei hewythr yn frenin a threfnwyd i Antigone briodi ei chefnder Haemon. Ond wedi brwydr rhwng dau frawd Antigone, a'r ddau wedi eu lladd mae anffawd yn disgyn arni eto. Yn ôl y gred, ni fyddai fyth heddwch i enaid un sy ddim wedi cael angladd addas. Ond dyma benderfyniad y Brenin am gorff un o frodyr Antigone. Marwolaeth oedd y cosb am y rhai a feiddiai cynnal unrhyw ddefod i'r corff. Ac wrth gwrs dyna’r union beth a wnaeth Antigone. Oherwydd ei huchel dras roedd rhaid iddi wneud y defodau priodol a cholli ei bywyd i, hapusrwydd gyda [[Haemon]] a pharhau a'r rhwyg ac anffawd yn y teulu. Er mwyn urddas ei theulu, yn hytrach nag hapusrwydd ei theulu, mae Antigone yn aberthu ei hun er mwyn i enaid ei brawd gorwedd mewn hedd.