Charles Stanton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd ''' Charles Butt Stanton''' (7 Ebrill, 18736 Rhagfyr, 1946.) yn wleidydd Lafur Cymreig yn Undeb llafur...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 19:
Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig,Rhagfyr 1910| etholiad cyffredinol Rhagfyr 1910]] fe'i dewiswyd yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth [[Dwyrain Morgannwg (etholaeth seneddol)|Dwyrain Morgannwg]]. Penderfynodd Ffederasiwn y Glowyr i beidio cefnogi ei ymgeisyddiaeth gan roi eu cefnogaeth i'r Undebwr Llafur amlwg [[Allen Clement Edwards]] yr ymgeisydd [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]]. Edwards fu'r ymgeisydd llwyddiannus
 
Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Stanton yn gefnogwr brwd i achos y rhyfel; ac yn feirniad llafar iawn yn erbyn Sosialwyr megis [[Keir Hardy]] arweinydd y Blaid Lafur a oedd yn mynegi amheuon am gyfiawnder y rhyfel. acRoedd hefyd yn groch yn erbyn unrhyw aelod o'r Blaid Lafur oedd yn coleddu achos [[Heddychiaeth|heddychiaeth]].
 
Ym 1915 bu farw Keir Hardy, un o'r Aelodau Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr, a chynhaliwyd isetholiad. Dewisodd y Blaid Lafur [[James Winstone]] i sefyll fel eu hymgeisydd swyddogol; penderfynodd Stanton i'w herio fel ymgeisydd Llafur annibynnol. Sail ymgyrch Stanton oedd ei gefnogaeth i'r rhyfel a'i honiad bod Winstone yn llugoer i'r rhyfel yn anwlatgar ac yn fradwrus (cyhuddiad gwbl ddi-sail). O achos cytundeb rhwng y pleidiau eraill i beidio herio ei gilydd yn ystod cyfnod y rhyfel doedd dim ymgeiswyr gan y Rhyddfrydwyr na'r [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadwyr]] er bod nifer o Rhyddfrydwyr blaenllaw wedi mynegi eu cefnogaeth i Stanton. Enillodd Stanton y sedd gyda mwyafrif mawr.
Llinell 50:
 
 
{{DEFAULTSORT:Stanton, Charles Butt}}
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Genedigaethau 1873]]