Alfred Mond: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 16:
==Gyrfa wleidyddol==
 
Bu Mond hefyd yn ymwneud â gwleidyddiaeth bu'n eistedd fel [[Aelod Seneddol]] [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] dros [[Dinas Caer (etholaeth seneddol|Dinas Caer]] 1906-1910, ar gyfer [[Abertawe (etholaeth seneddol)|Abertawe]] 1910-1918 ac ar gyfer [[Gorllewin Abertawe (etholaeth seneddol)|Gorllewin Abertawe]] o 1918 i 1923. Gwasanaethodd yn y llywodraeth glymblaid David Lloyd George fel Brif Comisiynydd y Gwaith 1916-1921 ac fel Gweinidog Iechyd (gyda sedd yn y cabinet) o 1921 i 1922. Bu'n cynrychioli [[Caerfyrddin (etholaeth seneddol)|Gaerfyrddin]] 1924-1928 fel Rhyddfrydwr i gychwyn ond gan groesi at y [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadwyr]] ar ôl anghytuno gyda [[David Lloyd George]] dros gynlluniau dadleuol y cyn Brif Weinidog i genedlaetholi tir amaethyddol.<ref> The Land Question in England, trawsysgrif o ddarlith gan Mond 1913 [http://www.canadianclub.org/Libraries/Event_Transcripts/Right_Hon__Sir_Alfred_Moritz_Mond_pdf.sflb.ashx] adalwyd 24 Rhagfyr 2014</ref>
 
Cafodd Mond ei urddo'n Farwnig ym 1910, a chafodd ei dderbyn i'r [[Cyfrin Gyngor]] ym 1913. Ym 1928 cafodd ei ddyrchafu i [[Tŷ'r Arglwyddi|Dŷ'r Arglwyddi]] fel y Barwn Melchett, o Landford yn Swydd Southampton.