George Newnes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd Tit Bits wedi cyrraedd cylchrediad o 700,000. Bu'r cylchgrawn yn ddylanwadol yn natblygiad newyddiaduraeth boblogaidd. Bu Alfred Harmsworth sefydlydd y [[Daily Mail]] yn gyfrannwr i Tit -Bits, a lansiwyd y [[Daily Express]] gan Arthur Pearson a fu'n gweithio Tit-Bits am gyfnod o bum mlynedd ar ôl ennill cystadleuaeth i gael swydd ar y cylchgrawn.
 
O bosib, cyhoeddiad mwyaf adnabyddus Newens oedd [[The Strand Magazine]]<ref>CYHOEDDIADAU MRI. GEORGE NEWNES CYF yn Goleuad 10 Mawrth 1909; Papurau Cymru arlein [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3228116/ART31] adalwyd 26 Rhagfyr 2014</ref> , a gychwynnwyd ym 1891; dyma'r gylchgrawn dechreuodd cyhoeddi hanesion [[Sherlock Holmes]] ditectif enwog Syr [[Arthur Conan Doyle]].
 
Ym mysg y teitlau eraill a gyhoeddwyd gan Newens oedd The Westminster Gazette (1873), The Wide World Magazine (1888), a Country Life (1897). Ym 1891 cafodd ei fusnes cyhoeddi ei droi yn gwmni cyfyngedig a oedd yn dwyn ei enw ''George Newnes Ltd''.
 
==Gyrfa Gwleidyddol==