A5: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 13:
'Roedd uno [[Prydain Fawr]] gydag [[Iwerddon]] wedi creu galw am gryfhau'r cysylltiad ymarferol rhwng [[Llundain]] a [[Dulyn]]. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd [[Thomas Telford]] i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o [[Llundain|Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]]. Wedi pasio deddf seneddol arbennig yn y flwyddyn honno, cychwynwyd ar y gwaith ym [[1815]], a pharhaodd nes cwblhau [[Pont y Borth]] yn [[1826]]. Hwn oedd y tro cyntaf i arian cyhoeddus gyllido adeiladu ffyrdd ym Mhrydain ers oes y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniaid]].
 
Un o nodweddion y ffordd oedd nad unrhyw oleddf i fod gyda graddiant o fwy na 5%, hyd yn yn oed yn [[Eryri]]. Er mwyn caniatáu hyn, 'roedd rhaid adeiladu pontydd, cloddiau a waliau cynnal sylweddol ar hyd y llwybr.
 
Adeiladwyd hefyd rhai strwythurau sylweddol iawn - yn cynnwys [[Pont Waterloo]] ar draws [[Afon Conwy]] ym [[Betws-y-Coed|Metws-y-Coed]], [[Morglawdd Stanley]] ar draws [[Y Lasinwen]], ac yn fwyaf oll, [[Pont y Borth]] ar draws [[Afon Menai]].