Việt Minh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 38 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q190949 (translate me)
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B Yn gosod File:Flag_of_North_Vietnam_(1945-1955).svg yn lle Flag_of_North_Vietnam_1945-1955.svg (gan Ymblanter achos: File renamed: punctuation).
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Flag of North Vietnam Flag_of_North_Vietnam_(1945-1955).svg|250px|bawd|Baner y Việt Minh]]
Mudiad oedd yn brwydro dros [[annibyniaeth]] [[Fietnam]] oedd y '''Việt Minh''' ({{iaith-vi|Việt Nam Ðộc Lập Ðồng Minh Hội}}, Cynghrair dros Annibyniaeth Fietnam). Sefydlwyd yn [[Nanjing]], [[Tsieina]], rhywbryd rhwng 1935 a 1936 fel [[ffrynt unedig]] yn erbyn [[Ymerodraeth Ffrainc]] oedd yn rheoli [[Indo-Tsieina Ffrengig]], ond wnaeth darfod yn fuan. Adferwyd y mudiad ym 1941 gan Blaid Gomiwnyddol Indo-Tsieina a [[Ho Chi Minh]] i wrthwynebu meddiannaeth Fietnam gan [[Japan]] yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]], a chafodd gefnogaeth gan [[yr Unol Daleithiau]] a [[Gweriniaeth Tsieina]]. Wedi i'r Japaneaid encilio ar ddiwedd y rhyfel, parhaodd y Việt Minh i wrthwynebu imperialaeth Ffrainc yn Fietnam. Enciliodd lluoedd Ffrainc rhag De Ddwyrain Asia ar ddiwedd [[Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina]] ym 1954, wedi iddynt golli nifer o frwydrau i luoedd [[Võ Nguyên Giáp]], arweinydd milwrol y Việt Minh. Daeth y Việt Minh i rym yng [[Gogledd Fietnam|Ngogledd Fietnam]] wedi i Fietnam rhannu'n ddwy yn ôl [[Cynhadledd Genefa (1954)|Cytundeb Genefa]], a gwrthwynebodd llywodraeth [[De Fietnam]] a'r [[Unol Daleithiau]] yn ystod [[Rhyfel Fietnam]]. Erbyn 1960 cafodd ei ddisodli fel mudiad [[herwfilwrol]] [[comiwnyddiaeth|comiwnyddol]] yn y De gan [[Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol De Fietnam]].