Brennus (4edd ganrif CC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Brennus''' (neu '''Brennos''') yn bennaeth o lwyth y [[Senones]], llwyth [[Y Celtiaid|Celtaidd]] oedd yn byw yng ngogledd [[yr Eidal]] yn y diriogaeth a elwid yn [[Gallia Cisalpina]].
 
O gwmpas y flwyddyn [[387 CC]] gorchfygodd byddin Geltaidd dan Brennus y Rhufeiniaid ym [[Brwydr yr Allia|Mrwydr yr Allia]], ac aethant ymlaen i gipio dinas [[Rhufain]] ei hun. Yr unig ran o'r ddinas nad oedd wedi ei meddiannu gan y Senones, yn ôl haneswyr Rhufeinig, oedd bryn y Capitol.
 
Dywed y ffynonellau Rhufeinig fod y dadlau ynglŷn â'r pwysau wedi peri oedi a alluogodd [[Marcus Furius Camillus]] i gyrraedd gyda byddin a gorfodi'r Galiaid i adael y ddinas heb yr aur. Dywedir i Camillus orchfygu'r Galiaid mewn brwydr arall ac ennill y teitl ''[[Pater Patriae]]''. Awgrymwyd gan rhai fod Brennus wedi gwneud cynghrair a [[Dionysius o Syracusa]], oedd yn bwriadu ymosod ar gyngheiriaid Rhufain yn [[Sicilia]]. Awrymir ei fod ef wedi perswadio Brennus i ymosod ar Rufain o'r gogledd fel na allai'r Rhufeiniaid ymyrryd a'i gynlluniau.