Ellis Wynne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2:
Llenor crefyddol a chyfieithydd oedd '''Ellis Wynne''' ([[7 Mawrth]], [[1671]] - [[13 Gorffennaf]], [[1734]]). Mae'n adnabyddus fel awdur ''[[Gweledigaethau y Bardd Cwsc]]'', a ystyrir yn un o glasuron [[llenyddiaeth Gymraeg|rhyddiaith Gymraeg]].
 
==BywydBywgraffiad==
[[File:A letter in the hand of Ellis Wynne, Lasynys (1720) NLW3364636.jpg|bawd|Llythyr yn llawysgrifen Ellis Wynne.]]
 
Ganed Ellis Wynne yn Y Lasynys (neu'r Lasynys Fawr), ffermdy sylweddol rhwng [[Talsarnau]] a [[Harlech]], yn yr hen [[Sir Feirionnydd]] (de [[Gwynedd]]), yn fab i Edward Wynne o blasdy [[Glyn Cywarch]] (heb fod ymhell o'r Lasynys). Roedd yn deulu o fan uchelwyr gyda chysylltiad â theulu [[Brogyntyn]], ger [[Croesoswallt]]. Trwy ei daid Elis Wyn roedd Ellis Wynne yn perthyn i [[John Jones, Maesygarnedd]], un o'r rhai a lofnododd warant dienyddio'r brenin [[Siarl I o Loegr]].
 
Yn wahanol i John Jones o Faesygarnedd, yr oedd Ellis Wynne yn frenhinwr pybyr. Mae manylion ei yrfa yn ansicr, ond ymddengys iddo dreulio cyfnod yn Ysgol Ramadeg [[Amwythig]]. Mae cerdd [[Lladin|Ladin]] gan Wynne yn awgrymu cysylltiad ag Ysgol Ramadeg [[Biwmares]] yn ogystal. Aeth i [[Prifysgol Rhydychen|Rydychen]] lle graddiodd ar y 1af o Fawrth [[1692]], yn 21 oed. Mae'n bosibl ei fod wedi cwrdd â'r athrylith amlddawn [[Edward Lhuyd]] tra oedd yno. Ym Medi [[1698]] priododd â'i wraig gyntaf, Lowri Wynne o Foel-y-glo, Meirionnydd.