Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 27:
 
Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol<Ref> Cyngor Sir y Fflint - NODIADAU EGLWYSI SYR STEPHEN GLYNNE [http://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Records-and-Archives/Source-Guide-No-11-NODIADAU-EGLWYSI-SYR-STEPHEN-GLYNNE.pdf] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>. Mae ei nodiadau yn dyddio o 1824 tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ac maent yn cwmpasu eglwysi yng Nghymru, Lloegr ac Ynysoedd y Sianel ac ychydig yn yr Alban ac Iwerddon. Mae ei nodiadau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan haneswyr pensaernïol, gan eu bod yn aml yn rhoi cofnod byr a gwybodus o'r adeiladau fel yr oeddent cyn adferiadau Fictoraidd
Mae nodiadau eglwysig Glynne wedi eu cadw mewn 106 o gyfrolau, sydd yn cael eu cadw yn [[Llyfrgell Gladstone]] (Llyfrgell Deiniol Sant gynt), Penarlâg yn.<ref>Glynne, Sir Stephen Richard (1807-1874) 9th Baronet MP Antiquary [http://discovery.nationalarchives.gov.uk/details/c/F68714] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref> Er na chyhoeddodd Glynne ei nodiadau yn ystod ei fywyd mae sawl gyfrol bellach wedi eu cyhoeddi gan gymdeithasau archeolegol a chofnodi lleol ers ei farwolaeth.
 
Bu Glynne hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd cyntaf (1847-9) Cymdeithas Hynafiaethau Cymru; ac fel cadeirydd (1852-1874) Adran Bensaernïol y Sefydliad Archeolegol.