Y Cefnfor Tawel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: man gywiriadau using AWB
enwau gwledydd
Llinell 3:
Y [[cefnfor]] mwyaf yn y byd yw'r '''Cefnfor Tawel''', sy'n gorwedd rhwng [[Asia]] yn y gorllewin a [[De America|De]] a [[Gogledd America]] yn y dwyrain. Ceir [[ynys]]oedd niferus yn y cefnfor hwn sydd yn cael eu dosbarthu fel [[Melanesia]], [[Polynesia]] a [[Micronesia]], dosbarthiad diwyllianol yn hytrach na dosbarthiad [[daearyddiaeth|daearyddol]]. Ymysg y moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Tawel y mae [[Môr Bering]], [[Môr Okhotsk]], [[Môr Japan]], [[Y Môr Melyn]], [[Môr Dwyreiniol Tsieina]], [[Môr De Tsieina]], [[Môr Bismarck]], [[Môr Solomon]], [[Y Môr Cwrel]] a [[Môr Tasman]].
 
Mae llawer o wledydd ar arfordir y cefnfor hwn: [[Rwsia]], [[Japan]], [[Taiwan]], [[PilipinasY Philipinau]], [[Indonesia]], [[Papua Guinea Newydd]], [[Awstralia]], [[Seland Newydd]], [[FijiFfiji]], [[KiribatiCiribati]], [[Ynysoedd Marshall]], [[Taleithiau Ffederal Micronesia]], [[NauruNawrw]], [[Palau]], [[Samoa]], [[Ynysoedd Solomon]], [[Tonga]], [[TuvaluTwfalw]], [[VanuatuFanwatw]], [[Unol Daleithiau America]], [[Canada]], [[MéxicoMecsic]], [[GuatemalaGwatemala]], [[El SalvadorSalfador]], [[HondurasHondwras]], [[NicaraguaNicaragwa]], [[Costa Rica]], [[PanamáPanama]], [[Colombia]], [[Ecuador]], [[Periw]] a [[Chile]].
 
Mae ganddo [[arwynebedd]] o 179.7 miliwn km² (35% o arwynebedd y ddaear) ac mae'n cynnwys tua 723.7 miliwn [[cyfaint|km³]] o ddŵr. Mae dyfnder cyfartalog y Cefnfor Tawel oddeutu 4,028 m, ac mae'n cynnwys y lle dyfnaf yn y byd: dyffryn hollt Marianas sydd 11,034m o dan [[lefel môr cymedrig|lefel cymedrig y môr]]. Mae 15,500 km (9,600 milltir) o bellter rhwng y Môr Bering yn y gogledd a Môr Ross yn [[Antarctica]] yn y dde, a 19,800 km (12,300 milltir) o Indonesia i glannau Colombia.