Twm o'r Nant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 3:
 
==Gyrfa Twm==
Ganwyd Twm ym Mhenparchell Isaf, ym mhlwyf [[LlannefyddLlanefydd]], [[Sir Ddinbych]] yn 1739. O fewn dwy flynedd symudodd y teulu i'r Nant Uchaf yn [[Nantglyn]] (y "Nant" yn ei lysenw), hefyd yn Sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond dysgodd elfennau [[llythrenedd| darllen a sgwennu]] [[Cymraeg]] mewn ysgol rad a sefydlwyd yn Nantglyn. Dywed Twm yn ei hunangofiant ei fod wedi sgwennu ei anterliwt gyntaf yn 9 mlwydd oed. Gweithiodd fel gwas fferm, fel ei dad o'i flaen. Ond cyn hir roedd yn perfformio mewn anterliwtiau yn ffeiriau gogledd-ddwyrain Cymru. Priododd ei gariad Elizabeth Hughes yn 24 oed ar [[19 Chwefror]] [[1763]], mewn gwasanaeth a arweinwyd gan y bardd [[Ieuan Brydydd Hir]], a chafodd ferch yn Rhagfyr yr un flwyddyn. Bu fyw â'i wraig yn y gogledd hyd [[1769]] gan ennill bywoliaeth fel cariwr coed yn [[Dinbych|Ninbych]] a [[Bachymybyd]].
 
Yna daeth tro mawr ar ei fywyd ac aeth Twm i lawr i'r [[de Cymru|De]] a [[Sir Drefaldwyn]] i ddianc rhag ei ddyledwyr a threuliodd gyfnod helbulus yn cadw tafarn ac yn gofalu am dollborth yn [[Llandeilo]], [[Sir Gaerfyrddin]].