Muammar al-Gaddafi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B manion iaith
Llinell 2:
Arweinydd [[Libya]] oedd '''Muammar Abu Minyar al-Gaddafi''' ([[7 Mehefin]] [[1942]] – [[20 Hydref]] [[2011]]), neu'r '''Milwriad Gaddafi''' ([[Arabeg]] : معمر القذافي, Muʿammar Al-Qaḏâfî ; ceir sawl ffurf arall ar ei enw wedi'i drawslythrennu o'r Arabeg).
 
Cafodd ei eni yn [[Sirt]], Libia., yn fab i fugail tlawd. Ef oedd arweinydd ''[[de facto]]'' Libia ers 1970 yn sgîl gwrthdroi'r llywodraeth yn 1969 mewn coup d'état a ddiorseddodd [[Idris, brenin Libya|y Brenin Idris]]. Nid oedd yn dal swydd wleidyddol fel y cyfryw, gan adael gwleidyddion eraill i fod yn arlywydd a gweinidogion swyddogol, ac mae'n cael ei adnabod fel "Tywysydd Chwyldro Mawr Gweriniaeth Boblogaidd Sosialaidd Arabaidd Fawr Libya" neu "y Brawd-dywysydd". Fel arweinydd mae Gadaffi wedi cynnig "trydydd lwybr" i'r gwledydd sy'n datblygu a'r [[byd Arabaidd]], athroniaeth a geir yn ei lyfr adnabyddus ''Y Llyfr Gwyrdd''.
 
== Gwrthryfel 2011 ==