OpenOffice.org: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manylu ar hanes y cyfieithiad Cymraeg
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:OpenOffice.jpg|bawd|200px|Ciplun o'r dudalen dewis a gynigir i ddefnyddiwr mewn fersiwn a oedd ar gael yn Gymraeg.]]
Mae '''OpenOffice.org''' ('''OO.o''' neu '''OOo'''), (a adnabyddir fel arfer fel: '''OpenOffice''') yn deulu o [[meddalwedd cyfrifiadurol|feddalwedd cyfrifiadurol]] tebyg iawn i [[Microsoft Office]] - a ddosberthir am ddim. Mae'n draws-lwyfanol hefyd ac yn cyd-fynd gyda Fformat OpenDocument ([[OpenDocument]] Format (neu ODF)) yr [[International Organization for Standardization|ISO]]/[[International Electrotechnical Commission|IEC]].
 
==Hanes a'r Gymraeg==
 
Roedd y teulu hwn o feddalwedd ar gael mewn oddeutu 120 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg.<ref name=langcount>{{cite web | url= http://wiki.services.openoffice.org/wiki/Languages | title= Language localization status | work= OpenOffice Language Localization Project | accessdate=29 Hydref 2012}}</ref> Y teitl gwreiddiol oedd StarOffice, a ddatblygwyd gan StarDivision ond a werthwyd i Sun Microsystems yn Awst 1999. Cafodd y cod ffynhonnell ei ryddhau yng Ngorffennaf 2000 gyda'r nod o gipio cyfran o farchnad Microsoft Office drwy ei gynnig am ddim i bawb.
 
Rhyddhawyd y fersiwn Cymraeg ryngwyneb OpenOffice.org 1.1 ym Mehefin 2004. Cyfieithwyd y pecyn cyfan gan Rhoslyn Prys a gwnaed y gwaith technegol gan David Chan, ynwedi wirfoddolei ac heb dâl o dan faner Meddal.com. Y bwriad oedd darparu pecyn o raglenni swyddfa safonnol yn Gymraeg ar gyfer defnyddgyfieithu gan unigolion, cyrff cyhoeddus a chwmnïau oedd yn dymuno gweithredu drwy gyfrwng y Gymraegwirfoddolwyr. Datblygodd yr Uned Technoleg Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor wirydd sillafu Cymraeg ar ei gyfer ar yr un pryd. Yn ddiweddarach, creodd David Chan ategyn oedd yn caniatáu newid y rhyngwyneb o'r Gymraeg i'r Saesneg ac yn ôl drwy gyfrwng botwm ar y rhyngwyneb. Parhawyd i gynnal y cyfieithiad tan 2010.
 
Yn 2010, cafodd Sun Microsystems ei brynu gan Oracle a chafodd OpenOffice.org ei drosglwyddo i'r [[Apache]] Software Foundation a'i alw'n Apache OpenOffice. Oherwydd anfodlonrwydd gyda natur trwydded Apache, aeth grŵp o ddatblygwyr OpenOffice.org ati i greu [[the Document Foundation]] a pharhau i ddatblygu fersiwn o'r meddalwedd dan enw newydd, [[LibreOffice]].<ref>{{cite web |url=http://www.icewalkers.com/articles/libreoffice-vs-openoffice.html |title=Libreoffice VS Openoffice |publisher=Ice Walkers |accessdate=29 Rhagfyr 2014 }}</ref> Ni pharhawyd i ddatblygu'r rhyngwyneb Cymraeg o dan Apache OpenOffice. Y fersiwn diwethaf o OpenOffice.org i fod ar gael yn Gymraeg oedd 3.2.1, nôl yn 2010.<ref>{{cite web |url=http://www.openoffice.org/cy/ |title=OpenOffice.org Cymraeg: Llwytho i Lawr - Download |publisher=Apache OpenOffice |accessdate=29 Rhagfyr 2014}}</ref> Mae LibreOffice yn parhau i gael ei ddatblygu gyda rhyngwyneb Cymraeg.<ref>{{cite web |url=https://www.libreoffice.org/download/libreoffice-fresh/?lang=pick |title=Please select your language |publisher=The Document Foundation |accessdate=29 Rhagfyr 2014}}</ref>