Priodas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mwy = 'bigger' (o ran faint); rhagor= 'more' (o ran nifer)
ei bod - ei fod
Llinell 2:
Uniad ffurfiol rhwng dau berson neu ragor<ref>Haviland, William A.; Prins, Harald E. L.; McBride, Bunny; Walrath, Dana (2011). ''Cultural Anthropology: The Human Challenge'' (13eg argraffiad). Cengage Learning. ISBN 978-0-495-81178-7. "''A nonethnocentric definition of marriage is a culturally sanctioned union between two or more people that establishes certain rights and obligations between the people, between them and their children, and between them and their in-laws.''"</ref> fel arfer er mwyn [[cyd-fyw|byw gyda'i gilydd]] ac yn aml i gael [[plant]] yw '''priodas'''<ref>{{dyf GPC |gair=priodas |dyddiadcyrchiad=1 Ionawr 2015 }}</ref> (neu weithiau mewn cyd-destun cyfreithiol '''y stad briodasol''').<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [wedlock].</ref> Mae [[cyfraith briodasol]] yn rheoli'r hawliau a dyletswyddau sydd gan barau priod, ac eu statws cyfreithiol parthed ei gilydd a'u plant.
 
Mae'r cysyniad o briodas yn gyffredin i gymdeithasau ar draws y byd, gan ei bodfod yn darparu strwythur ar gyfer sylfaen gymdeithasol a phersonol, sy'n cynnwys anghenion [[cyfathrach rywiol|rhywiol]] a [[cariad|chariadol]], [[rhannu llafur]] rhwng y ddau [[rhywedd|rywedd]], ac annog cenhedlu a magu plant.<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/366152/marriage |teitl=marriage |dyddiadcyrchiad=1 Ionawr 2015 }}</ref>
 
Gelwir dyn priod yn [[gŵr|ŵr]] a menyw briod yn [[gwraig|wraig]]. Gelwir y ddefod sy'n nodi dechrau priodas hefyd yn briodas neu'n [[seremoni briodas]]. Mae nifer yn gweld priodas fel uniad rhwng dau [[teulu|deulu]] er mwyn creu teulu newydd, hynny yw y [[teulu niwclear]] sy'n cynnwys rhieni a'u plant. Gelwir teulu'r priod yn [[teulu-yng-nghyfraith|deulu-yng-nghyfraith]]. Mewn rhai diwylliannau mae priodas yn uniad am weddill oes na ellir ei derfynu, ond mewn cymdeithasau eraill mae modd dod â phriodas i ben drwy [[ymwahaniad (priodas)|ymwahaniad]], [[dirymiad (priodas)|dirymiad]], neu [[ysgariad]].