Hela'r dryw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
parhau - Iwerddon
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:St. Stephens Day (26 December) in Dingle, Co Kerry.jpg|bawd|Y 'Wren Boys' yn dathlu ''Lá an Dreoilín'' yn Dingle, [[Swydd Kerry]]]]
[[Delwedd:Eurasian-Wren-Troglodytes-troglodytes.jpg|bawd|Y dryw (''[[Troglodytes troglodytes]]'')]]
Defod ar ffurf gorymdaith (a chasgliad o ganeuon cysylltiedig) a geid yn y gwledydd Celtaidd oedd '''hela'r dryw''' (amrywiad: '''hela'r dryw bach''') a oedd yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol yn ymwneud â dathlu [[Lleu|duw'r goleuni]], drwy aberthu brenin yr adar, sef y dryw bach, i'r duw hwn. Mae'n dilyn dydd byra'r flwyddyn, sef [[Alban Arthan]] ac yn ddathliad fod yr haul yn codi'n gynt, pob cam ceiliog ac o ailenedigaeth yr haul. Mae creu'r aderyn lleiaf yn symbol o'r haul, y duw mwyaf, yn eironig iawn. Mae ailactio marwolaeth ac ailenedigaeth yr haul mewn defod, fel hyn, yn digwydd mewn llawer o [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]]; ystyr y gair 'dryw' mewn sawl iaith yw 'brenin'.
Llinell 12 ⟶ 13:
Roedd rhywbeth cyfrin iawn am adar i'r [[Celtiaid]]; fe geir darluniau niferus ohonynt, yn arbennig o adar dŵr. Ceir chwedl yn y [[Mabinogi]] am ddryw bach, sydd efallai'n brawf o bwysigrwydd yr aderyn: 'Daeth Arianrhod ar fwrdd y llong, er mwyn i Gwydion a Lleu Llaw Gyffes gael mesur ei thraed a thra’r oedd Arianrhod yno, daeth dryw bach a tharawodd y bachgen ef, rhwng gewyn ac asgwrn ei goes gyda nodwydd.' Mae hyn yn debyg iawn i un o linellau'r gân Wyddelig (gweler isod): ''Do chaitheas-sa mo mhaide leis is bhriseas a chos;'' ('Mi deflais fy ffon a thorrais ei goes.'')<ref>[http://www.irishgaelictranslator.com/translation/topic103605.html Irish Gaelic Translator.com]; adalwyd 1 Ionawr 2015</ref> Cofnodwyd y Mabinogi yn y [[12fed ganrif]], ond mae'r stori ei hun yn llawer hŷn.
 
Mae'r traddodiad o hela'r dryw wedi parhau'n ddi-dor yn Iwerddon.<ref>[http://www.dingle-peninsula.ie/wren.html www.dingle-peninsula.ie;] adalwyd 01 Ionawr 2014</ref> ac yn [[Ynys Manaw]].<ref>[http://manxscenes.com/2012/12/hunt-the-wren-2012-st-stephens-day-manx-tradition-boxing-day/ manxscenes.com;] adalwyd 01 Ionawr 2014</ref>. Yn Ynys Manaw, gwrthodai'r pysgotwyr fynd i'w llongau heb bluen y dryw - i ddod a lwc dda; credai pobl yr ynys hefyd fod plu'r dryw yn cadw meltithion gwrachod i ffwrdd. Mewn chwedloniaeth Gaeleg, mae adar yn gyfryngwyr rhwng y byd hwn a'r byd nesaf. Defnyddiai'r derwyddon batrwm hedfan adar i ddarogan a chred rhai fod y gair 'dreoilín' (dryw) yn gywasgiad o'r gair 'derwydd'. Yng Ngorllewin Ceri, ceir ceffyl cogio yn arwain yr orymdaith, un tebyg iawn i'r Fari Lwyd, a gwisgir y 'Wrenboys' mewn gwisgoedd o wellt. Rhan anhepgor o'r ddefod oedd claddu'r dryw a ddeuai ar ddiwedd y ddefod. Caed cân 'tafod yn y foch' yn rhan o'r hwyl, ac yn symbol o gladdu'r hen haul, cyn Alban Arthan.
 
==Caneuon==
Llinell 23 ⟶ 24:
* Gwyddeleg: caneuon 'Dryw'r Bechgyn'; sy'n cychwyn ''“Y dryw, y dryw, brenin yr holl adar...”'' Mae'r cofnod Gwyddeleg cyntaf yn dyddio'n ôl i 1696 mewn gwaith gan Aubrey: ''Near the same place, a party of the Protestants had been surprised sleeping by the Popish Irish, were it not for several wrens that just wakened them by dancing and pecking on the drums as the enemy were approaching. For this reason the wild Irish mortally hate these birds, to this day, calling them the Devil’s servants, and killing them wherever they catch them; they teach their children to thrust them full of thorns: you will see sometimes on holidays, a whole parish running like mad men from hedge to hedge a wren-hunting.'' Ceir cyfieithiad i'r Saesneg o un o'r caneuon [http://sniff.numachi.com/pages/tiWRENSN2;ttWRENSN2.html yma], a fideo yn [https://www.youtube.com/watch?v=4WvhPtiarW4 fama].
 
* Saesneg: ceir sawl fersiwn Saesneg, nifer ohonyn nhw ar ''You Tube'', e.e. [https://www.youtube.com/watch?v=BOpwRsowgP8 ''The Wren Song'' (1969) gan y Clancey Brothers. Ceid fersiwn Saesneg, cyfieithiad o'r [[Manaweg|Fanaweg]] mae'n debyg: ''“We hunted the wren for Robin the Bobbin...”''<ref>[http://www.castlearcana.com/christmas/day16.html www.castlearcana.com;] adalwyd 01 Ionawr 2014</ref>
 
* Cymraeg: 'Hela'r Dryw Bach' ''“I ble rwyt ti'n mynd, meddai Dibyn wrth Dobin?....” a phenillion eraill yn cynnwys 'Rhisiart wrth Robin'. Cofnodwyd mewn erthygl gan Llew Tegid yn “Journal of the Welsh Folk Song Society” (Cyfrol I, rhan 3, 1911, pp. 99-113). Cofnodwyd cerddoriaeth un o'r caneuon ('Y Driw Bâch,') gan Maurice Edwards, heb eiriau, a chedwir y [[llawysgrif]] ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]],<ref>[https://alawonbangor.wordpress.com/2014/02/07/y-driw-bach/ Alawon Bangor;] Prifysgol Bangor; adalwyd 01 Ionawr 2015</ref> ond ceir fersiynnau eraill gytda geiriau. Ceir hefyd sawl dawns draddodiadol ynglŷn â'r ddefod. Daw sawl fersiwn o Sir Benfro, gan gynnwys 'Cân y Dryw Bach' a gofnodwyd yn 1896 a cheir nodiadau diddorol gyda'r geiriau yn disgrifio'r ddefod / prosesiwn ac a ailgyhoeddwyd gan [[Phyllis Kinney]].