Hela'r dryw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marwnad yr Ehedydd a ballu
Llinell 1:
[[Delwedd:St. Stephens Day (26 December) in Dingle, Co Kerry.jpg|bawd|Y 'Wren Boys' yn dathlu ''Lá an Dreoilín'' yn Dingle, [[Swydd Kerry]]]]
[[Delwedd:Eurasian-Wren-Troglodytes-troglodytes.jpg|bawd|Y dryw (''[[Troglodytes troglodytes]]'')]]
Defod ar ffurf gorymdaith (a chasgliad o ganeuon cysylltiedig) a geid yn y gwledydd Celtaidd oedd '''hela'r dryw''' (amrywiad: '''hela'r dryw bach''') a oedd yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol yn ymwneud â dathlu [[Lleu|duw'r goleuni]], drwy aberthu brenin yr adar, sef y dryw bach, i'r duw hwn. Mae'n dilyn dydd byra'r flwyddyn, sef [[Alban Arthan]] ac yn ddathliad fod yr haul yn codi'n gynt, pob cam ceiliog ac o ailenedigaeth yr haul. Mae creu'r aderyn lleiaf yn symbol o'r haul, y duw mwyaf, yn eironig iawn. Mae ailactio marwolaeth ac ailenedigaeth yr haul mewn defod, fel hyn, yn digwydd mewn llawer o [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]]; ystyr y gair 'dryw' mewn sawl iaith yw 'brenin'. Daeth y traddodiad i ben yng ngwledydd Prydain, fwy neu lai oherwydd y Gymdeithas yn Erbyn Creulondeb i Anifeiliaid, yn dilyn ymgyrch ganddynt, yn ôl William S. Walsh yn ei lyfr ''Curiosities of Popular Customs''.
 
Crybwyllir y ddefod hon gyntaf yn 1696 (gweler isod).<ref>[http://piereligion.org/wrenkingsongs.html www.piereligion.org (gwefan 'Proto-Indo-European Religion ');] adalwyd 01 Rhagfyr 2015</ref> Ceir tystiolaeth o'r ddefod hefyd mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys [[Saesneg]] a [[Ffrangeg]]. Arferid ei chynnal drwy Ragfyr a dechrau Ionawr, hyd at [[Nos Ystwyll]] (6ed o Ionawr). Parhaodd y ddefod yn ddi-dor yn [[Iwerddon]], ac fe'i dathlwyd yn benodol ar y 26ain o Ragfyr ([[Gŵyl San Steffan]]).
Llinell 24:
* Gwyddeleg: caneuon 'Dryw'r Bechgyn'; sy'n cychwyn ''“Y dryw, y dryw, brenin yr holl adar...”'' Mae'r cofnod Gwyddeleg cyntaf yn dyddio'n ôl i 1696 mewn gwaith gan Aubrey: ''Near the same place, a party of the Protestants had been surprised sleeping by the Popish Irish, were it not for several wrens that just wakened them by dancing and pecking on the drums as the enemy were approaching. For this reason the wild Irish mortally hate these birds, to this day, calling them the Devil’s servants, and killing them wherever they catch them; they teach their children to thrust them full of thorns: you will see sometimes on holidays, a whole parish running like mad men from hedge to hedge a wren-hunting.'' Ceir cyfieithiad i'r Saesneg o un o'r caneuon [http://sniff.numachi.com/pages/tiWRENSN2;ttWRENSN2.html yma], a fideo yn [https://www.youtube.com/watch?v=4WvhPtiarW4 fama].
 
* Saesneg: ceir sawl fersiwn Saesneg, nifer ohonyn nhw ar ''You Tube'', e.e. [https://www.youtube.com/watch?v=BOpwRsowgP8 ''The Wren Song'' (1969) gan y Clancey Brothers. Ceid fersiwn Saesneg, cyfieithiad o'r [[Manaweg|Fanaweg]] mae'n debyg: ''“We hunted the wren for Robin the Bobbin...”''<ref>[http://www.castlearcana.com/christmas/day16.html www.castlearcana.com;] adalwyd 01 Ionawr 2014</ref> Dylid cofio, hefyd mai'r dryw a laddodd y robin goch yn y gân werin Saesneg 'Cock Robin'.
 
* Cymraeg: 'Hela'r Dryw Bach' ''“I ble rwyt ti'n mynd, meddai Dibyn wrth Dobin?....” a phenillion eraill yn cynnwys 'Rhisiart wrth Robin'. Cofnodwyd mewn erthygl gan Llew Tegid yn “Journal of the Welsh Folk Song Society” (Cyfrol I, rhan 3, 1911, pp. 99-113). Cofnodwyd cerddoriaeth un o'r caneuon ('Y Driw Bâch,') gan Maurice Edwards, heb eiriau, a chedwir y [[llawysgrif]] ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]],<ref>[https://alawonbangor.wordpress.com/2014/02/07/y-driw-bach/ Alawon Bangor;] Prifysgol Bangor; adalwyd 01 Ionawr 2015</ref> ond ceir fersiynnau eraill gytda geiriau. Ceir hefyd sawl dawns draddodiadol ynglŷn â'r ddefod. Daw sawl fersiwn o Sir Benfro, gan gynnwys 'Cân y Dryw Bach' a gofnodwyd yn 1896 a cheir nodiadau diddorol gyda'r geiriau yn disgrifio'r ddefod / prosesiwn ac a ailgyhoeddwyd gan [[Phyllis Kinney]].
 
* Llydaweg: 'Maro al Laouenan' (Marw'r un Lawen'): ceir yma lawer o ormodiaith wrth ddisgrifio'r helfa fawr a chludo'r dryw e.e. ''Pevar c’har hac hi houarnet / Zo êt d’gass he blun d’ann Naonet;'' ('llawnwyd 4 cerbyd ffordd gyda'i blu a'u cludo i Nantes'), yn eitha tebyg i'r gân werin Gymraeg 'Y Lleuen'. Cyfieithwyd nifer o'r caneuon hyn i'r Ffrangeg a'r Saesneg, gyda rhai yn boblogaidd yn yr Unol daleithiau ("Billy Barlow", a ddaeth yn boblogaidd yn 1916.). Cofnodwyd y rhain yn 1913 gan Maurice Duhamel.<ref>[Gweler ''Musiques bretonnes'' gan Maurice Duhamel; cyhoeddwyd 1913 (pp. 113-115, rhif. 221-224)</ref>
 
==Y traddodiad yn parhau==
Llinell 37:
 
== Gweler hefyd ==
*[[Marwnad yr Ehedydd]]: cân werin; symbol o [[Owain Glyn Dŵr]] o bosib
*Adar [[Rhiannon]]
*[[Blodeuwedd]] - y dylluan