Twrci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newid enwau gwledydd (dolenni) hyd at De Affrica using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 94:
Yn y mileniau cyn [[Crist]] bu'n gartref i ymerodraeth yr [[Hitiaid]]. Ceir tystiolaeth bod rhai o lwythi'r [[Celtiaid]] wedi treulio amser yn [[Asia Leiaf]] hefyd. Yna daeth y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] i wladychu ardaloedd eang ar arfordiroedd y [[Môr Canoldir]], [[Môr Aegea]] a'r [[Môr Du]]. O blith y dinasoedd enwog a sefydlwyd ganddynt gellid enwi [[Caergystennin]], [[Caerdroia]], [[Effesus]], [[Pergamon]] a [[Halicarnassus]].
 
Rheolwyd y wlad gan [[yr Ymerodraeth Bersiaidd]] am gyfnod yn ystod y rhyfela a gwrthdaro rhwng [[Iran|Persia]] a gwladwriaethau annibynnol [[Gwlad Groeg]], dan arweinyddiaeth [[Athen]]. Gwelwyd [[Alecsander Mawr]] yn teithio trwyddi ar ei ffordd i gwncwerioorchfygu [[Babilon]], [[Tyrus]], y [[Lefant]] ac [[Asia]]. O'r ail ganrif CC ymlaen daeth yn raddol i feddiant y [[Rhufeiniaid]] a chreuwyd talaith [[Asia (talaith Rufeinig)|Asia]] ganddynt ac ychwanegwyd at gyfoeth ac ysblander yr hen ddinasoedd Groegaidd.
 
Am fil o flynyddoedd bron bu'r [[Ymerodraeth Fysantaidd]] yn dwyn mantell [[Rhufain]] yn [[Asia Leiaf]] a'r [[Dwyrain Canol]] ond ildio tir fu ei hanes; yn gyntaf rhag [[Iran|Persia]], wedyn yr [[Arabiaid]] [[Islam|Mwslemaidd]] ac yn olaf y [[Tyrciaid]] eu hunain. Yn y diwedd dim ond [[Caergystennin]] ei hun oedd yn aros, er gwaethaf (neu efallai oherwydd) sawl [[Croesgad]] aneffeithiol o [[Ewrop]].
Llinell 100:
Cwympodd [[Caergystennin]] yn y flwyddyn [[1453]]; trobwynt mawr yn hanes y Gorllewin a'r Dwyrain fel ei gilydd. O hynny ymlaen am dros bedair canrif roedd ''Constantinople'' yn brifddinas [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] a ymestynnai o'r ffin ag [[Iran]] yn y dwyrain i ganolbarth [[Ewrop]] a pyrth [[Budapest]] a [[Vienna]] yn y gorllewin, ac o lannau'r [[Môr Du]] yn y gogledd i arfordir [[Gogledd Affrica]].
 
Yn sgîlsgil [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], pan ochrodd Twrci â'r [[Almaen]], cafwyd chwyldro yn Nhwrci a sefydlwyd gweriniaeth seciwlar gan [[Ataturk]], "Tad y Twrci fodern". Symleiddiwyd yr iaith a throes y wlad ei golygon tua'r gorllewin. Erbyn heddiw mae Twrci yn aelod o [[NATO]] ac yn gobeithio ymuno a'r [[Undeb Ewropeaidd]] fel aelod llawn ohoni.
 
== Iaith a diwylliant ==