Belarws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 205 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q184 (translate me)
B clean up, replaced: Belarus → Belarws, Wcráin → Wcrain using AWB
Llinell 50:
|}}
 
[[Gweriniaeth]] dirgaeëdig yn nwyrain [[Ewrop]] yw '''Belarws''' (hefyd '''Belarus''', '''Belarŵs''' neu '''Rwsia Wen'''; [[Belarwseg]] a [[Rwseg]]: ''Беларусь''). Mae'n ffinio â [[Rwsia]] i'r dwyrain, ag [[Wcráin]] i'r de, â [[Gwlad Pwyl]] i'r gorllewin, ac â [[Lithwania]] a [[Latfia]] i'r gogledd. [[Minsk]] yw ei phrifddinas – mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys [[Brest]], [[Grodno]], [[Gomel]], [[Mogilev]], [[Vitebsk]] a [[Bobruisk]]. Coedwigir un traean o'r wlad, ac mae amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yn ganolog i'r economi. Belarws yw un o’r gwledydd yr effeithwyd yn fwyaf difrifol arni gan ymbelydredd niwclear o ddamwain atomfa [[Chernobyl]] o 1986 yn WcráinWcrain.
 
Yn ystod ei hanes, bu rhannau Belarws dan reolaeth sawl gwlad, gan gynnwys Dugiaeth Polatsk, Archddugiaeth Llethaw, Cymanwlad Gwlad Pwyl-Llethaw, ac [[Ymerodraeth Rwsia]]. Daeth Belarws yn weriniaeth [[Yr Undeb Sofietaidd|Sofietaidd]] ym 1922. Datganodd y weriniaeth ei sofraniaeth ar 27 Gorffennaf 1990. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, datganodd Belarws ei hannibyniaeth yn swyddogol ar 25 Awst 1991. [[Alexander Lukashenko]] yw arlywydd y wlad ers 1994. Yn ystod ei reolaeth, mae Lukashenko wedi gweithredu polisïau y cyfnod Sofietaidd, er gwaethaf gwrthwynebiadau oddi wrth bwerau gorllewinol. Mae Belarws yn trafod gyda Rwsia i uno'r ddwy wlad yn un wladwriaeth a elwir yn [[Undeb Rwsia a Belarws]], er bod y trafodaethau yn stolio ers sawl blwyddyn.