Gwener Mal'ta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
delwedd iawn
Llinell 1:
[[Delwedd:Mal'ta (venus figurine).gif|bawd|130px|Darlun o un o'r cerfluniau o Wener Mal'ta]]
[[File:Venus of Malta.jpg|bawd|280px]]
Mae '''Gwener Mal'ta''' yn un o sawl cerflun bychan [[palaeolithig]] o fenywod, a ddarganfuwyd yn [[Mal'ta]], ar [[Afon Angara]], ger [[Llyn Baikal]] yn [[Oblast Irkutsk]], [[Siberia]], [[Rwsia]].
 
==Disgrifiad==
Mae'r cerfluniau bychain hyn - sy'n perthyn i ddosbarth arbennig o gerfluniau cynhanesyddol a adnabyddir fel [[Cerflun Gwener|cerfluniau Gwener]] - yn dyddio'n ôl tua 23,000 mlynedd. Cawsant eu cerfio o [[ifori]] [[mamoth]]. Maen' nhw'n cael eu harddangos yn barhaol yn [[Amgueddfa'r Hermitage]], [[St Petersburg]].
 
Cafwyd hyd i tua 30 o gerfluniau bychain o fenywod o sawl ffurf yn Mal’ta. Mae'r amrywiaeth eang o ffurfiau, ynghyd â realaeth y cerfluniau, a'r amrywiaeth y manylion cerfiedig yn awgrymu'n gryf bodolaeth celf gynnar, er yn gyntefig. Cyn eu darganfod yn Mal’ta, dim ond yn [[Ewrop]] roedd cerfluniau Gwener fel hyn wedi eu darganfod. Wedi'u cerfio o ysgithrau (''tusks'') ifori mamoth, mae'r delweddau hyn yn arddangos arddulliau symbolig, sydd gan amlaf yn cynnwys gorbwysleisio'n fwriadol rhai elfennau o'r corff benywaidd, fel rheol y [[Bron|bronnau]] a'r [[Ffolen|ffolennau]]. Credir eu bod yn ymwneud â [[ffrwythlondeb]].
 
==Cadwraeth==
Mae'r cerfluniau hyn yn cael eu harddangos yn barhaol yn [[Amgueddfa'r Hermitage]] yn ninas [[St Petersburg]], Rwsia.
 
==Gweler hefyd==
Llinell 11 ⟶ 15:
==Dolenni allanol==
*[http://www.hermitagemuseum.org/fcgi-bin/db2www/gallery.mac/gallery?selLang=English&selCateg=archeological&comeFrom=advanced&Query_Exp=%28WOA_CULTURE+%3D%3D+%22Maltinsko-buretskaya+Culture%22%29+AND+%28WOA_TYPE+%3D%3D+%22Domestic+and+Religious+Objects%22%29&check=false&browserVer=&WOA_TYPE=Domestic+and+Religious+Objects&selValues=num_2_endMaltinsko-buretskaya+Culture Cerfluniau Mal'ta] ar wefan Amgueddfa'r Hermitage
 
{{Comin|Category:Venuses of Mal'ta|Gwenerau Mal'ta}}
 
[[Categori:Celf gynhanesyddol]]