Twm o'r Nant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gyrfa Twm: chwaneg
Llinell 20:
*''Cybydd-dod ac Oferedd'' (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, 1870)
 
Ond mi fu Twm yn fardd hynod o boblogaidd yn ogystal. Ysgrifennodd nifer o [[carol|garolau]], [[baled]]i, [[cywydd]]au ac [[englyn]]ion. Gwerthid ei gerddi gan [[baledwyr Cymru|faledwyr]] yn y ffeiriau a chyhoeddwyd y gyfrol ''[[Gardd o Gerddi]]'' yn [[1790]]. Cymerodd Twm ran flaenllaw yn [[Eisteddfod Caerwys 1798]], [[eisteddfod]] fawr a oedd yn ymgais i adgyfodi traddodiad yr hen eisteddfodau yng [[Caerwys|Nghaerwys]] yn yr [[16eg ganrif]]. Cafodd Twm ei wneud yn Ddisgybl Penceirddiad. O'r un cyfnod tyfodd gelyniaeth rhwng Twm a [[Dafydd Ddu Eryri]] a barodd am weddill ei oes.
 
Ysgrifennodd Twm o'r Nant [[hunangofiant]] byr a bywiog sy'n llawn o wybodaeth am ei fywyd a'i feddylfryd. Cedwir yn ogystal nifer o lythyrau ganddo.