Cymraeg ysgrifenedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
B →‎Hanes safoni Cymraeg ysgrifenedig: clean up, replaced: Kenya → Cenia, Panamâ → Panama using AWB
Llinell 14:
Bu’r Beibl yn safon orgraff y Gymraeg tan y bu i Dr W Owen Pughe gyhoeddi geiriadur mawr, a gwblhawyd ym [[1803]], lle y newidiwyd llythreniad llu o eiriau yn ôl cyfundrefn a ddyfeisiodd ei hunan. Codwyd nyth cacwn ymhlith y gramadegwyr, wrth i eraill fynd ati i ddiwygio’r orgraff a rhai yn cymysgu’r hen a’r newydd. Cyn pen fawr o dro roedd orgraff wahanol gan ymron i bawb yn enwedig ar y mater o ddyblu cytseiniaid. Cyhoeddwyd nifer o bapurau ac erthyglau ar y pwnc yn ystod y 19eg ganrif, a ffurfiwyd pwyllgor i ystyried y mater yn [[Eisteddfod Genedlaethol|Eisteddfod]] Bangor [[1890]]. Penderfynodd y Pwyllgor mai’r hen gyfundrefn sillafu, yn ôl sain y gair yn hytrach na’i tharddiad, oedd y gyfundrefn orau. Y prif wahaniaeth rhwng adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddwyd ym [[1893]] â Beibl 1620 oedd bod niferoedd o gytseiniaid dwbl y Beibl wedi eu dileu, gan adael dim ond '''n''' ac '''r''' i'w dyblu o gwbl, yn ôl nifer o reolau. O dipyn i beth fe fabwysiadwyd cyfundrefn yr Adroddiad hwn, a'r Adroddiad hwn oedd sail y gwaith safonol ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'' a baratowyd gan Bwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn [[1928]].
 
Y mae orgraff y Gymraeg yn dal i fod yn bwnc llosg hyd heddiw. Ers cyhoeddi ''Orgraff Yr Iaith Gymraeg'' mae nifer o faterion eraill wedi dod i'r amlwg gan gynnwys mater sillafu geiriau o darddiad tramor. Gwelir enghreifftiau da o'r amrywiadau sillafu mewn enwau gwledydd. Yng ''Ngeiriadur yr Academi'' cynigir '''Panama''' neu '''Panamâ''' yn sillafiadau amgen ar un wlad. Mae gwahanol weithiau yn dilyn gwahanol egwyddorion wrth drin enwau gwledydd. Mae ''Geiriadur yr Academi'', a'r Wicipedia Cymraeg, yn trawslythrennu sain enw'r wlad i'r wyddor Gymraeg, e.e. '''Cenia'''. Mae'r ''Atlas Gymraeg'' yn dewis defnyddio sillafiad swyddogol gwlad yn eu hiaith eu hunain os nad oes eisoes ffurf Gymraeg cyfarwydd i'r enw, e.e. '''KenyaCenia'''.
 
Gweler hefyd: ''[[Rhestr gramadegau Cymraeg (hyd 1900)]]''