Byddin Rhyddid Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Corff paramilitaraidd cenedlaethol Cymreig oedd '''Byddin Rhyddid Cymru''' ([[Saesneg]]: ''Free Wales Army'' neu ''FWA'').
 
Sefydlwyd y fyddin yn [[Llanbedr Pont Steffan]] yn [[1963]] gan [[William Julian Cayo-Evans]], gyda'r bwriad o gymeryd lle [[Mudiad Amddiffyn Cymru]]. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei baeintiobeintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref [[Capel Celyn]] a chyn [[Arwisgiad Tywysog Cymru]] yn 1969.
 
Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau. Yn [[1969]], rhoddwyd chwech o arweinyddion y fyddin, yn cynnwys Julian Cayo Evans, ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, ac wedi'r achos llys hiraf oedd wedi ei gynnal yng Nghymru hyd hynny, fe'u dedfrydwyd i dymhorau hir o garchar.