Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Penrhyn y Crimea"

Lleihawyd o 6 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
newid hen enw, replaced: Uzbekistan → Wsbecistan, Wcráin → Wcrain (5) using AWB
B (Yn dileu "Crimean_Mountains.PNG". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Fastily achos: Copyright violation: If you are the copyright holder/author and/or have authorization to publish the file, please...)
B (newid hen enw, replaced: Uzbekistan → Wsbecistan, Wcráin → Wcrain (5) using AWB)
: ''Am y bwlch yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler [[Bwlch y Gorddinan]].''
 
[[Delwedd:Map of Ukraine political simple Oblast Krim.png|bawd|de|300px|Map yn dangos lleoliad Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea o fewn WcráinWcrain]]
 
Mae '''Penrhyn y Crimea''' ([[Wcraineg]]: Кримський півострів; [[Rwsieg]]: Крымский полуостров a [[Tatareg Crimea]]: Qırım yarımadası) yn ddarn mawr o dir ar arfordir gogleddol [[y Môr Du]] ac sydd bron wedi'i amgylchynnu gan ddŵr. Saif i'r de o [[WcráinWcrain]] ac i'r gorllewin o [[Kuban]], [[Rwsia]].
 
Mae dau fôr o'i gwmpas: Y Môr Du a [[Môr Azov]] tua'r dwyrain gyda [[Isthmws Perekop]] yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd ond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa [[Gora Roman-Kosh]], yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys a adnabyddir fel [[Mynyddoedd Crimea]]. Y prif ddinasoedd yw [[Feodosia]], [[Kerch]], [[Sevastopol]], [[Yalta]], [[Yevpatoria]] a [[Simferopol]], y brifddinas.
 
==Perchnogaeth==
Yn 2014 cafwyd cryn ddadlau ynghylch perchnogaeth y Crimea. Hyd 2014 fe'i gweinyddwyd fel gweriniaeth hunanlywodraethol o dan reolaeth [[WcráinWcrain]]. Enw swyddogol y weriniaeth honno oedd '''Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea''' (Wcraineg ''Автономна Республіка Крим/Avtonomna Respublika Krym, Tatareg Crimea ''Qırım Muhtar Cumhuriyeti'').
 
Ym Mawrth 2014, yn dilyn cynydd yn niferoedd milwyr Rwsia i'r penrhyn, pleidleisiodd trigolion y Crimea dros sefydlu "[[Gweriniaeth Crimea]]. Ar y pryd, dim ond Rwsia oedd yn ei chydnabod; gweler [[Rhestr gwledydd anghydnabyddedig]].
 
==Hanes==
Coloneiddwyd y Crimea gan y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] yn y [[6ed ganrif CC]]. Cafodd ei oresgyn yn ddiweddarach gan y [[Gothiaid]], yr [[Hyniaid]] ac eraill. Yn [[1239]] cafodd ei wneud yn ''khaniad'' gan [[Tatariaid]] yr [[Haid Euraidd]]. Cipiwyd y ''khaniad'' gan y [[Twrci|Tyrciaid]] yn [[1475]] a chafodd y Crimea ei feddiannu gan [[Rwsia]] yn [[1783]]. Rhwng [[1853]] a [[1856]] ymladdwyd [[Rhyfel y Crimea]] yno rhwng lluoedd Rwsia ar un ochr a lluoedd [[DU|Prydain]], [[Ffrainc]] ac [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] ar yr ochr arall. Meddiannwyd y Crimea gan yr [[Almaen]] [[Natsïaeth|Natsïaidd]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]] ([[1941]]-[[1943]]). Ar ôl y rhyfel cafodd y Tartariaid eu halltudio i [[UzbekistanWsbecistan]] yn eu crwnswth am gydweithredu, yn ôl yr honiad, â'r Almaenwyr. Ers cwymp yr [[Undeb Sofietaidd]] mae llawer ohonynt wedi dod yn ôl.
 
<gallery>
[[Categori:Crimea| ]]
[[Categori:Daearyddiaeth Rwsia]]
[[Categori:Daearyddiaeth WcráinWcrain]]
[[Categori:Hanes WcráinWcrain]]
[[Categori:Y Môr Du]]