Fernando Torres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
B newid hen enw, replaced: Honduras → Hondwras (2), Saudi Arabia → Sawdi Arabia (2), Tunisia → Tiwnisia (2), Wcráin → Wcrain (2) using AWB
Llinell 55:
Enillodd ei gap gyntaf dros [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen|dîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen]] ar y 6ed o Fedi yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Portiwgal|Portiwgal]]. Daeth ei gôl gyntaf y flwyddyn wedyn yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Eidal|Yr Eidal]], ac o ganlyniad, dewiswyd ef yng ngharfan Sbaen ar gyfer [[Ewro 2004]]. Daeth ymlaen fel eilydd yn y ddwy gêm grŵp gyntaf, ond dechreuodd y trydydd, yn erbyn Portiwgal, a oedd yn penderfynu pa wlad fuasai'n mynd i'r rownd nesaf. Er ymdrechion gorau Fernando, collodd Sbaen 1-0, a tua diwedd y gêm, tarodd Torres y postyn.
 
Sgoriodd 7 gwaith mewn 11 ymddangosiad wrth i Sbaen ymdrechu i gyrraedd [[Cwpan y Byd Pêl-droed 2006]], gan gynnwys ei hatric rhyngwladol gyntaf yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol San Marino|San Marino]]. Sgoriodd ei gôl gyntaf yng Nghwpan y Byd yn ei gêm gyntaf yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol WcráinWcrain|WcráinWcrain]], mewn buddugoliaeth o 4-0. Sgoriodd ddwywaith yn y gêm wedyn yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol TunisiaTiwnisia|TunisiaTiwnisia]]. Cafodd ei orffwys yn y gêm olaf yn y grŵp yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol SaudiSawdi Arabia|SaudiSawdi Arabia]], ond daeth yn ôl yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Ffrainc|Ffrainc]], lle collodd Sbaen 1-3. Cafodd ei ddewis i [[Ewro 2008]], a sgoriodd yn yr ail gêm yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Sweden|Sweden]]. Ni sgoriodd eto tan y gêm derfynol yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Almaen|Yr Almaen]], a chafodd ei enwi'n 'Seren y Gêm' ar y diwedd wrth i Sbaen ennill 1-0.
 
Enillodd ei 60ain cap yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Twrci|Twrci]] ym mis Mai 2009, y chwaraewr ieuengaf i wneud hyn dros Sbaen. Sgoriodd hatric mewn 17 munud yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Seland Newydd|Seland Newydd]] yng [[Cwpan cydffederasiynau|Nghwpan cydffederasiynau]], ond trydydd daeth Sbaen yn y diwedd. Chwaraeodd yn y gemau grŵp yng [[Cwpan y Byd Pêl-droed 2010|Nghwpan y Byd 2010]] yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol y Swistir|Y Swistir]], [[Tîm pêl-droed cenedlaethol HondurasHondwras|HondurasHondwras]] a [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Chile|Chile]]. Cafodd ei feirniadu am ei berfformiadau gwael yn y gemau agoriadol, ond cafodd gefnogaeth gan y rheolwr, [[Vicente del Bosque]]. Daeth ymlaen yn yr amser ychwanegol yn y rownd derfynol wrth i Sbaen drechu [[Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Iseldiroedd|Yr Iseldiroedd]] 1-0, yn dod yn Bencampwyr y Byd am y tro cyntaf. Sgoriodd ddwywaith yn y gêm yn erbyn [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Liechtenstein|Liechtenstein]] yn y gemau i fynd i [[Ewro 2012]]. Hyd at 13 Medi 2010, mae wedi sgorio 26 gôl mewn 81 ymddangosiad.
 
==Bywyd Personol==
Llinell 68:
 
{{Sgwad Chelsea F.C.}}
 
{{Authority control}}
 
{{DEFAULTSORT:Torres, Fernando}}
Llinell 73 ⟶ 75:
[[Categori:Genedigaethau 1984]]
[[Categori:Pobl o Fuenlabrada]]
 
{{Authority control}}