Hen Galan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:28, 5 Ionawr 2015
Mae Hen Galan neu weithiau Calan hen yn cyfeirio at 13 Ionawr, sef diwrnod cynta'r flwyddyn cyn 1752 pan newidiwyd y dyddiad i'r un presennol (1af o Ionawr); cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd 13 Ionawr[1]. Golygai'r newid hwn y 'collwyd' 11 diwrnod, ac achoswyd cryn bryder gan gredo llawer o bobl y byddent yn colli 11 diwrnod o'u bywydau. Ac felly mae rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r Hen Galan ar sail yr hen Galendr Iwlaidd a gafodd ei ddisodli ym 1752 gan Galendr Gregori e.e. Cwm Gwaun a Llandysul.[2]
Roedd yr hen galan yn ddiwrnod o ŵyl ac roedd gwledda'n rhan hanfodol ohono! Hyd at 1833 arferid dathlu'r calan yn Llandysul drwy gêm gicio pêl - gyda phorth eglwys Llandysul yn un gôl a phorth eglwys Llanwenog y llall. Ar dorriad y wawr - a chyn hynny'n aml - arlwywyd gwledd fawr, neu 'frecwast', ac erbyn cychwyn y gêm am naw o'r gloch y bore, roedd llawer o'r bechgyn yn chwil ulw. Roedd y gêm yn esgys da iddynt lambastio'i gilydd - gyda thorri esgyrn yn rhan o'r hwyl! Rhoddodd y Parchedig Evan James stop i'r holl giamocs yn 1833 pan fynnodd y dylai'r plwyfolion ddod i gyfarfod o adrodd o'r Beibl a chanu emaynau yn hytrach.[3][4] Mae'r arferiad hwn yn parhau yn Llandysul hyd y dydd hwn (2015), ar y 12fed o Ionawr ond diflannodd 'Gŵyl Cicio'r Bêl' a Landysul a phob tref arall a arferai ei chwarae.
Gweler hefyd
- ↑ Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan er gwaetha'r tywydd; adalwyd 05/101/2013
- ↑ Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan o hyd ; adalwyd 05/01/2013
- ↑ www.genuki.org.uk; adalwyd 5 Ionawr 2015
- ↑ St Tysul's Church, Llandysul. A Short History and Guide by I. T. Hughes and J. R. Jenkins, p.10.