Hen Galan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Teimlaf y bydd 'cred' yn well fan hyn am ei fod yn fwy cyffredin na 'chredo'; ond, eto i gyd, mae credo'n hollol dderbyniol :)
parhau
Llinell 3:
Roedd yr hen galan yn ddiwrnod o ŵyl ac roedd gwledda'n rhan hanfodol ohono! Hyd at 1833 arferid dathlu'r calan yn [[Llandysul]] drwy gêm gicio pêl - gyda phorth eglwys Llandysul yn un gôl a phorth eglwys [[Llanwenog]] y llall. Ar dorriad y wawr - a chyn hynny'n aml - arlwywyd gwledd fawr, neu 'frecwast', ac erbyn cychwyn y gêm am naw o'r gloch y bore, roedd llawer o'r bechgyn yn chwil ulw. Roedd y gêm yn esgys da iddynt lambastio'i gilydd - gyda thorri esgyrn yn rhan o'r hwyl! Rhoddodd y Parchedig Evan James stop i'r holl giamocs yn 1833 pan fynnodd y dylai'r plwyfolion ddod i gyfarfod o adrodd o'r Beibl a chanu emaynau yn hytrach.<ref>[http://www.genuki.org.uk/big/wal/CGN/Llandysul/LlandysulHistory2.html www.genuki.org.uk;] adalwyd 5 Ionawr 2015</ref><ref>St Tysul's Church, Llandysul. ''A Short History and Guide by I. T. Hughes and J. R. Jenkins'', p.10.</ref> Mae'r arferiad hwn yn parhau yn Llandysul hyd y dydd hwn (2015), ar y 12fed o Ionawr ond diflannodd 'Gŵyl Cicio'r Bêl' a Landysul a phob tref arall a arferai ei chwarae.
 
Yng Nghwm Gwaun, mae'r gymuned yn parhau gyda nifer o'r hen draddodiadau, yn ddi-dor, gyda llawer ohonynt (yn enwedig plant) yn cerdded o amgylch ffiniau'r plwyf yn mofyn '[[calennig]]' - fferins, losin, arian neu ffrwyth, fel arfer. Roedd hyn yn arferiad mewn sawl lle ledled Cymru, cyn ei newid i'r calan newydd. Mae taith Cwm Gwaun yn 18 milltir (29 km) o amgycl y dyffryn, gan aros yma ac acw i ganu am eu calennig a chroesawu'r flwyddyn newydd.<ref>[http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-west-wales-16487089 Gwefan y BBC]; adalwyd 5 Ionawr 2015</ref>
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Gweler hefyd==