Y Caribî: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ffynonellau a manion using AWB
B newid hen enw, replaced: Bermuda → Bermiwda using AWB
 
Llinell 9:
[[Rhanbarth]] o'r [[Amerig]] sy'n cynnwys [[Môr y Caribî]], ei [[ynys]]oedd, a'r arfordiroedd cyfagos yw'r '''Caribî''' ([[Ffrangeg]]: ''Caraïbe'', ''Antilles''; [[Iseldireg]]: ''Cariben'', ''Caraïben'', ''Antillen''; [[Saesneg]]: ''Caribbean''; [[Sbaeneg]]: ''Caribe''). Lleolir yn ne-ddwyrain [[Gogledd America]], i ddwyrain [[Canolbarth America]], ac i ogledd-orllewin [[De America]].
 
Mae'r ardal, a leolir yn bennaf ar [[y Blât Garibïaidd]], yn cynnwys mwy na 7000 o ynysoedd, [[ynysig]]iau, [[riff]]iau, a [[cai|chaion]]. Mae '''India'r Gorllewin''' yn cynnwys yr [[Antilles]], a rannir yn [[Antilles Fwyaf]] sy'n arffinio'r môr ar y gogledd ac [[Antilles Leiaf]] ar y de a'r dwyrain (yn cynnwys [[Antilles Gysgodol]]), a'r [[Bahamas]]. Lleolir [[BermudaBermiwda]] ymhellach yng ngogledd [[Môr yr Iwerydd]], ond mae'n rhan o India'r Gorllewin.
 
Yn [[daearwleidyddiaeth|ddaearwleidyddol]], ystyrir India'r Gorllewin fel [[isranbarth]] o [[Gogledd America|Ogledd America]] a rhannir yn 28 o diriogaethau yn cynnwys [[gwladwriaeth]]au [[sofraniaeth|sofranaidd]], adrannau tramor, a [[tiriogaeth ddibynnol|tiriogaethau dibynnol]]. Rhwng 1958 a 1962, bu wladwriaeth o'r enw [[Ffederasiwn India'r Gorllewin]] oedd yn cynnwys deg tiriogaeth Caribïaidd [[Saesneg]].