Thomas Jones, Dinbych: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Comin
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Er cof am y diweddar Barch Thos Jones, Dynbych .. NLW3364382.jpg|250px|bawd|Thomas Jones]]
Roedd '''Thomas Jones''' ([[1756]] - [[16 Mehefin]] [[1820]]) yn un o lenorion mwyaf galluog y [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru|Methodistiaid]] yng [[Cymru|Nghymru]], a aned yng [[Caerwys|Nghaerwys]] yn [[Sir y Fflint]], gogledd Cymru. Roedd yn ddyn amryddawn a oedd yn fardd ar y mesurau caeth, yn hanesydd, yn ddiwinydd ac yn gofiannydd.
 
==Y dyn a'r diwygiwr==
[[Delwedd:Thomas Jones Merthyron 1813.JPG|250px|bawd|Wynebddalen ''Hanes y Merthyron'' (1813) gan Thomas Jones]]
Ganed Thomas Jones ym Mhenucha, ger Caerwys, yn 1756. Yn ddyn ieuanc derbyniodd addysg glasurol yn [[Treffynnon|Nhreffynnon]] gyda'r bwriad o fynd yn offeiriad yn yr [[Yr Eglwys yng Nghymru|eglwys sefydliedig]]. Ond dylanwadwyd arno'n gynnar gan y Methodistiaid a daeth yn un ohonynt gan roi heibio unrhyw fwriad o gael ei ordeinio yn [[Eglwys Loegr]]. Roedd hynny cyn i'r Methodistiaid ddechrau ordineiddio ac felly arosodd yn lleygwr. Dechreuodd bregethu yn [[1773]]. Yn [[1784]] cyfarfu â [[Thomas Charles]] o'r Bala. Cafodd ddylanwad cryf ar Charles a chyfranodd at loywi ei iaith. Llafuriodd gyda'r Methodistiaid fel cynghorwr yn [[Rhuthin]], [[Dinbych]] a'r [[Yr Wyddgrug|Wyddgrug]]. Roedd yn un o'r cynharaf o'r Methodistiaid i gael eu neilltuo i weini'r Ordinhadau yn [[1811]] ac o hynny hyd ddiwedd ei oes llafuriodd i adeiladu'r eglwys Fethodistaidd ar seiliau cadarn. Yn ddiwinyddol gorweddai rhwng eithafion [[Arminiaeth]] ac [[Uchel Galfiniaeth]] gwŷr fel [[John Elias]]. Bu'n briod dair gwaith.
 
==Y diwinydd==
[[Delwedd:Thomas Jones Merthyron 1813.JPG|250px|bawd|Wynebddalen ''Hanes y Merthyron'' (1813) gan Thomas Jones]]
Gwnaeth Thomas Jones gyfraniad sylweddol o ran cynnwys ac arddull i [[Diwinyddiaeth|ddiwinyddiaeth]] Gymraeg. Roedd yn wrthwynebydd cryf i Arminiaeth, a oedd yn amlwg ymhlith y [[Wesleyaeth|Wesleyaid]], a chyfieithodd ''The Christian in Complete Armour'' ([[1655]]-[[1662]]) gan [[William Gurnal]] i'r Gymraeg dan y teitl ''Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth'' ([[1796]]-[[1820]]). Ei gampwaith yn ddi-os yw'r gyfrol enfawr a gyhoeddodd yn [[1813]] ar hanes merthyron y [[Protestaniaeth|ffydd Brotestanaidd]], ''Hanes Diwigwyr, Merthyron, a Chyffeswyr Eglwys Loegr'' (neu ''Hanes y Merthyron'').