Daearyddiaeth Malawi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B newid hen enw, replaced: Tanzania → Tansanïa (2), Zambia → Sambia using AWB
Llinell 1:
[[Image:Malawi Topography.png|thumb|150px|Tirlun Malawi]]
 
Mae '''[[Malawi]]''', yn wlad yn nwyrain [[Affrica]]. Mae [[ZambiaSambia]] i'r gogledd orllewin a [[TanzaniaTansanïa]] i'r gogledd ddwyrain a [[Mosambic]] i'r dwyrain, y de a'r gorllewin. Mae yn cael ei gwahannu oddi wrth TanzaniaTansanïa a Mosambic gan [[Llyn Malawi|Lyn Malawi]]. Yn y de, mae'r wlad yn ymestyn i mewn i Mosambic ar hyd dyffryn [[afon Shire]]. Nid oes gan Malawi arfordir, ond mae rheilffordd yn ei chysylltu a phorthladdoedd [[Nacala]] a [[Beira]] yn Mosambic.
 
Rhed y [[Dyffryn Hollt Mawr]] ar hyd y wlad o'r gogledd i'r de, a cheir nifer o lynnoedd yn y dyffryn. Llyn Malawi yw'r trydydd llyn yn Affrica o ran arwynebedd. Llifa afon Shire o ben deheuol y llyn i ymuno ag [[afon Zambezi]] yn Mosambic. Bob ochr i'r Dyffryn Hollt, mae'r wlad yn un fynyddig. Yn y gogledd, mae Ucheldir Nyika yn cyrraedd 2,600 medr uwch lefel y môr, ac i'r de o Lyn Malawi mae Ucheldiroedd Shire, sy'n cyrraedd uchder o 2,130 m ar Ucheldir Zomba a 3,002 m yn Mynyddoedd Mulanje.
 
Mae dwysder poblogaeth Malawi yn uchel i wlad yn Affrica. Y ddinas fwyaf, yn ôl pob tebyg, yw [[Blantyre, Malawi|Blantyre]], gyda phoblogaeth o tua 500,000, tra mae poblogaeth y brifddinas,
[[Lilongwe]], dros 400,000. Mae'r tywydd yn drofannol, gyda tymor glawog rhwng Tachwedd ac Ebrill, ac ychydig iawn o law rhwng Mai a Hydref. Ar y tir isel ceir tymheredd o tua 27° to 29 °C rhwng Medi ac Ebrill, a tua 23° rhwng Mai a Medi.
 
[[Categori:Daearyddiaeth Malawi| ]]