Mashriq: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion, categoriau
B newid hen enw, replaced: Kuwait → Ciwait, Sudan → Swdan (2) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Mashreq.png|thumb|Map o'r ''Mashriq'']]
 
Y '''Mashriq''' neu'r '''Mashreq''' (hefyd: '''Mashrek''') ([[Arabeg]]: مشرق) yw'r enw Arabeg traddodiadol ar ranbarth o wledydd [[Arabiaid|Arabaidd]] yn y [[Dwyrain Canol]], i'r dwyrain o'r [[Aifft]] ac i'r gogledd o [[Arabia]]. Daw'r enw o'r gwreiddyn Arabeg ''sh-r-q'' (ش ر ق) yn ymwneud â chyfeiriad y Dwyrain a'r Wawr, ac mae'n golygu yn syml 'Y Dwyrain' neu, yn fwy llythrennol, 'lle cyfyd yr haul'.
 
Defnyddir y gair gan yr Arabiaid i gyfeirio at ardal eang yn y Dwyrain Canol rhwng gwledydd y [[Lefant]] ar lan y [[Môr Canoldir]] yn y gorllewin i'r ffin ag [[Iran]] yn y dwyrain. Cyfetyb felly i'r ''[[Maghreb|maghrib]]'' (مغرب), sef "Y Gorllewin", enw traddodiadol gwledydd [[Gogledd Affrica]]. Gorwedd [[Yr Aifft]] yn y canol rhwng y ddau ranbarth hyn; er ei bod yn agosach i'r Maghreb yn ddiwyllianol ac yn ieithyddol mae'n cael ei chynnwys weithiau yn y Mashriq neu'n sefyll ar wahân. Weithiau mae [[SudanSwdan]] hefyd yn cael ei chynnwys yn y Mashriq. Mae'r ddau enw fel ei gilydd yn dyddio o gyfnod y goresgyniad [[Islam]]aidd. Mae'r Mashriq (heb yr Aifft) yn gyfateb yn fras i [[Bilad al-Sham]], ond yn cynnwys hefyd [[Irac]].
 
==Gwledydd y Mashriq==
Llinell 11:
*gogledd [[Gwlad Iorddonen]]
*[[Irac]]
*[[KuwaitCiwait]]
 
Hefyd weithiau:
*de [[Gwlad Iorddonen]]
*[[Yr Aifft]]
*[[SudanSwdan]] (yn llai aml)
 
== Gweler hefyd ==