Palesteina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
diweddaru
B newid hen enw, replaced: Honduras → Hondwras (2), Kuwait → Ciwait (2), Yemen → Iemen (2) using AWB
Llinell 3:
Tiriogaeth hanesyddol yn y [[Dwyrain Canol]] sy'n gorwedd rhwng y [[Môr Canoldir]] ac [[Afon Iorddonen]] a gwlad a grewyd ar ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] o dan reolaeth [[DU|Prydain]] wrth i hen [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn y Dwyrain Canol ddarnio yw '''Palesteina'''. Cyfeirir ati yn aml wrth yr enw '''Y Tir Sanctaidd''' hefyd, am ei bod yn cynnwys lleoedd sy'n gysegredig i'r tair crefydd Abrahamig, sef [[Cristnogaeth]], [[Iddewiaeth]] ac [[Islam]]. Er na fu iddi hanes hir fel uned wleidyddol fodern, llwyddwyd yn sgîl sefydlu gwladwriaeth [[Iddewiaeth|Iddewig]] [[Israel]] ar yr un diriogaeth, i lunio hunaniaeth Balesteinaidd genedlaethol, a gâi ei mynegi'n bennaf trwy [[Mudiad Rhyddid Palesteina|Fudiad Rhyddid Palesteina]] (PLO).
 
Bellach mae gan y [[Palesteiniaid]] wladwriaeth yn y [[Tiriogaethau Palesteinaidd]] hyn: [[Llain Gaza]], rhwng Israel a'r [[Yr Aifft|Aifft]] ar lan y Môr Canoldir, a reolir gan [[Awdurdod Cenedlaethol Palesteina]]. Mae'r [[Y Lan Orllewinol|Lan Orllewinol]], rhwng Israel a [[Gwlad Iorddonen]], hefyd o dan reolaeth yr Awdurdod hwn. Fodd bynnag, mae'r tiriogaethau hyn yn cael eu hystyried yn Diriogaethau a Feddianwyd gan y Palesteiniaid a'r [[Cenhedloedd Unedig]] am fod Israel yn rheolwr ''[[de facto]]'' arnynt o hyd. Mae tua 100 o wledydd led-led y byd yn cydnabod hawl y [[Palesteiniaid]] i'w hanibyniaeth. Ar 3 o Hydref 2014 cafwyd anerchiad gan Brif Weinidog [[Sweden]] y byddai ei wlad yn cydnabod cenedl Palesteina ac yna ar 13 Hydref 2014 pleidleisiodd Llywodraeth y DU o 274 i 12 o blaid cydnabod Palesteina yn genedl. <ref>[http://imeu.net/news/article0065]</ref><ref>{{cite news |last= Beaumont |first= Peter |date=3 October 2014 |title= Sweden to recognise state of Palestine |url= http://www.theguardian.com/world/2014/oct/03/sweden-recognise-state-palestine |newspaper= The Guardian |location=London |accessdate=14 October 2014}}</ref><ref>{{cite web |url=http://www.bbc.co.uk/news/uk-politics-29596822 |title=MPs back Palestinian statehood alongside Israel |author=<!--Staff writer(s); no by-line.--> |date=14 October 2014 |website=BBC News |publisher=BBC |accessdate=14 October 2014 }}</ref>
 
==Daearyddiaeth==
Llinell 21:
 
==Hanes==
Gorwedd Palesteina mewn lleoliad strategol rhwng yr Aifft i'r gorllewin a gweddill y [[Lefant]] a'r Dwyrain Canol i'r gogledd a'r dwyrain. Mewn canlyniad mae sawl ymerodraeth wedi brwydro i'w meddianu a'i rheoli ers gwawr hanes.
 
[[Delwedd:UN Partition Plan For Palestine 1947.png|right|thumb|Cynllun i rannu'r wlad rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid a luniwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 1967]]
Llinell 29:
O ddiwedd y 4edd ganrif OC ymlaen, ymadawodd nifer o [[Iddewon]]. Daeth yn ganolfan [[pererindod]] i Gristnogion ac i'r Mwslemiaid hefyd, yn dilyn ei choncwest gan yr [[Arabiaid]] yn 636 OC. Cipiwyd rhannau sylweddol o Balesteina gan y [[Croesgadwyr]] a bu yn eu meddiant o 1099 hyd ganol y 13eg ganrif. Ar ôl cyfnod dan reolaeth yr Aifft, cipiwyd yr ardal gan [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn 1516 ac fe'i rheolwyd ganddynt hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]].
 
Ar ddiwedd cyfnod rheolaeth yr Otomaniaid agorwyd Palesteina i ddylanwadau newydd o'r Gorllewin. Dechreuodd Iddewon a fu ar wasgar ymsefydlu yno o ganol y 19eg ganrif ymlaen. Gyda hyn, datblygodd [[Seionaeth]] gyda'r nod o sefydlu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina. Arwydd o hyn oedd sefydlu [[Tel Aviv]] fel dinas Iddewig newydd yn 1909. Yn ôl rhai awdurdodau roedd tua 100,000 o Iddewon ym Mhalesteina erbyn y 1900au, ond hanerwyd eu nifer yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn 1918 cipiwyd Palesteina gan Brydain. Cadarnheuwyd rheolaeth Prydain gan Fandad [[Cynghrair y Cenhedloedd]] yn 1922. Gyda [[Datganiad Balfour]] yn 1917, roedd Prydain eisoes wedi mynegi ei chefnogaeth i sefydlu gwladwriaeth Iddewig, ond arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng yr ymsefydlwyr Iddewig a'r [[Palesteiniaid]] brodorol wrth i'r Seionwyr gipio eu tir. [[David Lloyd George]] fu'n bennaf gyfrifol am hynny yn ei amser fel Gweinidog Rhyfel a Phrif Weinidog y DU. Saethwyd dros 5,000 o Balesteiniaid gan filwyr Prydeinig rhwng 1936 ac 1939. Cafwyd sawl ymosodiad terfysgol a chyflafanau gan grwpiau Seionaidd terfysgol fel y [[Gang Stern]]. Dylifodd nifer o ymsefydlwyr Iddewig o Ewrop i'r ardal a gwaethygodd y sefyllfa. Yn 1947 penderfynodd y [[Cenhedloedd Unedig]] rannu Palesteina yn ddwy wladwriaeth, un i'r Iddewon a'r llall i'r Palesteiniaid, yn unol â 'Penderfynaid Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 181' (''UN General Assembly Resolution 181''). Ond gwrthodwyd hyn gan y Palesteiniaid am y byddai'n golygu colli llawer o'r tiroedd gorau. Rhoddodd Prydain ei mandad heibio yn 1948 a chafwyd rhyfel gan yr Israeliaid ar y Palesteiniaid. Trawsfeddianwyd eu tiroedd a gorfodwyd miloedd lawer ohonynt i ffoi am eu bywydau: cyfeirir at hyn gan y Palesteiniaid fel ''[[Al Nakba]]'' ("Y Catastroffi").
 
Sefydlwyd gwladwriaeth [[Israel]] yn 1948.
 
{{Nodyn:Llinell-amser Palesteina}}
 
==Y diaspora Palesteinaidd==
Llinell 46:
*{{baner|UDA}} [[UDA]] 200,000
*{{baner|Yr Aifft}} [[Yr Aifft]] 70,245
*{{baner|HondurasHondwras}} [[HondurasHondwras]] 54,000
*{{baner|KuwaitCiwait}} [[KuwaitCiwait]] 50,000
*{{baner|Brasil}} [[Brasil]] 50,000
*{{baner|YemenIemen}} [[YemenIemen]] 24,000
*{{baner|Canada}} [[Canada]] 24,000
*{{baner|Awstralia}} [[Awstralia]] 15,000
Llinell 60:
{{Prif|Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd}}
 
Yn ystod ymosodiad 2008 Israel ar y Palesteiniaid yn Llain Gaza credir fod oddeutu bron i 400 o blant. Yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol a ymwelodd â Llain Gaza yn 2009 (sef ''Britain-Palestine All Party Parliamentary Group'') mae oddeutu 6,500 o blant wedi'u carcharu yn Israel. Ym Mehefin 2012 croesawodd Richard Burden AS (sef cadeirydd y grŵp) Adroddiad a gomisiynwyd gan y Swyddfa Dramor a ddaeth i'r canlyniad fod Awdurdodau Israel yn fwriadol dorri Pedwerydd Confensiwn Genefa dros Hawliau'r Plentyn.<ref>[http://www.richardburden.com/middleeast] Gwefan Richard Burdon AS); adalwyd 06/12/2012</ref>
 
Rhwng 2000 a 2009 cafodd 6,700 o blant dan 18 oed eu harestio gan Awdurdodau Israel, yn ôl Amddiffyn Plant Rhyngwladol (''Defence for Children International''). Roedd 423 ohonynt mewn carchardai yn 2009; erbyn 280 roedd y ffigwr i lawr i 280. Dywedodd llefarydd ar eu rhan fod hyn yn gwbwl groes i Ddedfau Rhyngwladol.<ref name=DCI>{{cite web|date=18 April 2009|title=Palestinian Prisoners Day 2009: Highest number of children currently in detention since 2000|url=http://www.dci-pal.org/english/display.cfm?DocId=1126&CategoryId=1|Amddiffyn Plant Rhyngwladol: Adran Palesteina}}</ref> Nid yw'n anghyffredin i'r plant gael eu dal mewn carchar am 6 mis heb weld eu teulu a'u bônt yn cael eu [[poenydio]].
 
==Gweler hefyd==