Ynysoedd Cocos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 86 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q36004 (translate me)
B newid hen enw, replaced: Sri Lanka → Sri Lanca using AWB
Llinell 2:
[[Delwedd:Keelingislands.png|250px|bawd|Lleoliad Ynysoedd Cocos]]
[[Delwedd:Cocos keelingISS002-E-9900.PNG|250px|bawd|Prif ynys]]
Grŵp o [[ynys]]oedd yng [[Cefnfor India|Nghefnfor India]] yw'r '''Ynysoedd Cocos''' (hefyd '''Ynysoedd Keeling''') a reolir gan [[Awstralia]] fel 'tiriogaeth allanol' wrth yr enw swyddogol '''Tiriogaeth yr Ynysoedd Cocos (Keeling)''' ([[Saesneg]]: ''Territory of the Cocos (Keeling) Islands''). Ceir dau atol a 27 o ynysoedd [[cwrel]] yn y grŵp. sy'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Awstralia a [[Sri LankaLanca]] ac i'r gorllewin o [[Indonesia]]. Y brifddinas yw [[West Island, Ynysoedd Cocos|West Island]] ond pentref Bantam yw'r anneddle mwyaf.
 
Yn 2010, roedd gan yr ynysoedd boblogaeth o tua 600.<ref>[https://www.cia.gov/library/publications/the-world-factbook/geos/ck.html CIA World Factbook]</ref> Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd llai yn anghyfanedd. Ceir y boblogaeth i gyd bron ar yr atol deheuol lle ceir dwy brif ynys, West Island a Home Island. Mae mwyafrif poblogaeth West Island (tua 100) yn bobl o dras [[Ewrop]]eaidd a phobl o dras [[Malaysia|Malay]] yw'r mwyafrif ar Home Island (tua 500). [[Saesneg]] yw'r iaith swyddogol ''[[de facto]]'' ond siaredir tafodiaith o'r iaith [[Malaieg]] hefyd. Mae 80% o'r ynyswyr, sef y rhai o dras Malay, yn [[Islam|Fwslemiaid]] [[Sunni]].
 
Mae'r ynysoedd dan reolaeth Awstralia ers 1955 ar ôl iddynt gael eu cipio a dod yn rhan o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]] yn 1857. Llywodraethir Ynysoedd Cocos gan Llywodraethwr Cyffredinol yn ninas [[Canberra]] sy'n llywodraethu [[Ynys y Nadolig]] yn ogystal. Mae gan yr ynysoedd eu parth rhyngrwyd eu hunain, sef [[.cc]].