Bilad al-Sham: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 6 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3183526 (translate me)
B newid hen enw, replaced: Yemen → Iemen using AWB
Llinell 1:
'''Bilad al-Sham''' (hefyd ''bilad-ush-shem'', ''bilad-ash-cham'', etc.) ([[Arabeg]]: بلاد الشام ) yw'r enw Arabeg traddodiadol ar ardal y [[Lefant]] (yn ei hystyr ehangaf) neu [[Syria Fawr]], sy'n cynnwys y gwledydd modern [[Syria]], [[Gwlad Iorddonen]], [[Libanus]], [[Israel]], a'r [[Palesteina|tiriogaethau Palesteinaidd]] (weithiau heb gynnwys ardal [[Al-Jazira (Mesopotamia)|Al-Jazira]] yng ngogledd-ddwyrain Syria heddiw). Ystyr y term yw "gwlad y llaw chwith", gan fod rhywun yn yr [[Hejaz]] a wynebai'r dwyrain yn ystyried y gogledd fel y chwith (yn yr un modd mae [[YemenIemen]] yn golygu "gwlad y llaw dde"). Yn ogystal mae dinas [[Damascus]] (Arabeg: ''al-Sham'' الشام ) yn dominyddu'r ardal mewn hanes fel canolfan diwyllianol, gwleidyddol a masnachol.
 
Nid yw'r term 'Bilad al-Sham' yn cyfateb yn union i "Syria Fawr" neu'r "Lefant", am fod Syria Fawr yn gallu cyfeirio at ardal fwy cyfyng, tra bod y Lefant yn ei dro yn gallu cyfeirio at ardal ehangach. Defnyddir yr enw gan haneswyr yn bennaf erbyn heddiw. Am lawer o hanes y [[Dwyrain Canol]], rhannai Bilad al-Sham ddiwylliant ac economi integreiddiedig a'i chanolfan yn Damascus. Daeth yr undod hwnnw i ben yn y cyfnod [[trefedigaeth]]ol ar ôl y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] pan ffurfiwyd y [[gwladwriaeth]]au modern yn yr ardal.