Swahili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Tanzania → Tansanïa
B →‎Defnyddwyr Swahili: newid hen enw, replaced: Moçambique → Mosambic using AWB
Llinell 5:
[[Delwedd:Swahili area.gif|right|thumb|290px|Parth yr iaith Swahili (lliw melyn)]]
 
Mae Swahili yn iaith frodorol i lwythau'r Swahili, sy’n byw ar nifer o’r ynysoedd ger Dwyrain Affrica gan gynnwys [[Sansibar]] a Pemba a [[Mayotte]], ac ar arfordir Dwyrain Affrica, o ddeheudir [[Somalia]], trwy [[Cenia]] a [[Tansanïa]] hyd at ogledd [[MoçambiqueMosambic]]. Mae hefyd yn famiaith i lawer sy’n byw yn Nwyrain Affrica nad ydynt o dras Swahili, yn enwedig yn y dinasoedd a’r trefi mawrion amlhiliol. Yn sgil twf diweddar y trefi mae Swahili yn disodli ieithoedd brodorol gwreiddiol y trefi a’r dinasoedd, yn Tansanïa yn enwedig. Mae’r iaith hefyd wedi ymfudo gydag ymfudwyr o Ddwyrain Affrica i bedwar ban byd, gan gynnwys cymunedau yn [[Oman]], yr [[Emiradau Arabaidd Unedig]], [[De Affrica]] ac [[Unol Daleithiau America]]. Mae'r amcangyfrif o'r rhai sydd â Swahili yn famiaith iddynt yn amrywio o 5 miliwn i 10 miliwn o bobl.
 
Siaredir Swahili fel [[lingua franca]] yn helaeth trwy Ddwyrain Affrica, yn bennaf yn Tansanïa, Cenia, [[Iwganda]], [[Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo|Dwyrain Congo]], [[Rwanda]] a [[Bwrwndi]]. Mae’r amcangyfrif o’r sawl sy’n siarad Swahili fel ail iaith yn amrywio o 45 miliwn hyd at 85 miliwn. Fe addysgir trwy gyfrwng Swahili yn ysgolion cynradd Tansanïa. Fe astudir Swahili mewn nifer o brifysgolion dros y byd. Swahili a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cenia a Tansanïa.