Robert Williams (Trebor Mai): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
comin, manion
Llinell 1:
[[Delwedd:Trebor Mai manylyn 01.JPG|250px|bawd|Trebor Mai, tua 1870]]
Bardd oedd '''Robert Williams''', neu '''Trebor Mai''' ([[25 Mai]], [[1830]] - [[5 Awst]], [[1877]]), a anwyd yn [[Llanrhychwyn]], yn yr hen [[Sir Gaernarfon]], gogledd [[Cymru]].<ref name="Foulkes">Isaac Foulkes (gol.), ''Gwaith Barddonol Trebor Mai'' (Lerpwl, 1883). Bywgraffiad.</ref>
 
==Ei fywydBywgraffiad==
Ganwyd Robert Williams yn 1830, yn Tŷ'n yr Ardd ym mhentref bach Llanrhychwyn, yn y bryniau i'r gorllewin o bentref [[Trefriw]], yn fab i Robert ac Ann Williams. Teiliwr wrth ei grefft oedd y tad. Yn fuan ar ôl ei eni symudodd y teulu i fwthyn arall yn yr un pentref, Ty'n y Coed.<ref name="Foulkes"/>
 
Cafodd y bardd ei addysg swyddogol yn ysgol gynradd Llanrhychwyn ac, am gyfnod byr, yn [[Ysgol Rad Llanrwst]]. Ond addysg Saesneg a gafodd yn yr ysgolion hynny; cafodd ei addysg Gymraeg yn yr [[Ysgol Sul]] leol yn y pentref a oedd yng ngofal y [[Methodistiaid Calfinaidd]].<ref name="Foulkes"/>
 
Pan oedd Trebor Mai yn 13 oed symudodd y teulu i [[Llanrwst|Lanrwst]], bedair milltir i ffwrdd. Dechreuodd Trebor weithio fel prentis i'w dad. Dechreuodd Trebor fynychu eglwys [[yr Annibynwyr]] yn y dref, oedd yng ngofal y bardd a beirniad [[Caledfryn]] yr adeg honno. Yn [[1854]] priododd Robert ferch crydd o Lanrwst ac agorodd siop teiliwr ar ei liwt ei hun yn nhŷ o'r enw Yr Hen Fanc. Yn [[1873]] symudodd i Dros yr Afon a bu yno hyd ei farwolaeth o'r ddarfodigaeth yn [[1877]], yn 47 oed.<ref name="Foulkes"/>
 
==Ei waithBarddoniaeth==
[[Delwedd:Robert Williams (Trebor Mai, 1830-77) (1867) NLW3362211.jpg|225px|bawd|Trebor Mai yn 1867]]
Nid yw'r [[enw barddol]] "Trebor Mai" ond enw y bardd wedi'i sgwennu o'r chwith (sef "I am Robert"). Mae Trebor Mai yn enghraifft ragorol o 'feirdd gwlad' y cyfnod; roedd ei dad yn barddoni a dysgodd Trebor Mai hanfodion y [[Cynghanedd|gynghanedd]] o gyfnod cynnar iawn. Arferai gyfansoddi wrth weithio yn nhai'r gymdogaeth (âi teilwriaid yr oes o dŷ i dŷ) ac yn fuan daeth yn enwog yn y fro am barodrwydd ei awen.<ref name="Foulkes"/>
 
Fel pob bardd cymerai ran yn yr [[eisteddfod]]au, mawr a bach. Am gyfnod roedd Caledfryn yn [[athro barddol]] iddo. Y prif ddylanwad llenyddol arno oedd gwaith [[Ieuan Glan Geirionydd]]. Roedd ganddo gylch eang o gyfeillion llengar, yn cynnwys [[Dewi Arfon]] a [[Scorpion]]. Gyda [[Gethin Jones (llenor)|Gethin Jones]] a [[Gwilym Cowlyd]] sefydlodd [[Arwest Glan Geirionydd]]. Enillodd ei awdl "Y Gloch" Gadair [[Taliesin]] yn yr arwest ar lannau'r llyn yn 1875. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, sef ''Fy Noswyl'' (1861) a ''Geninen'' (1869).<ref name="Foulkes"/>
 
Er nad oes llawer o werth parhaol i'r cerddi eisteddfodol a gyfansoddodd mae Trebor Mai yn adnabyddus hyd heddiw am ei englynion ffraeth a synhwyrol. Bardd ei fro a'i gymdeithas ydyw ac mae ei ganu ar ei orau pan mae'n canu i gyfeillion a chymdogion ar achlysuron llawen neu drist, yn disgrifio pethau bach bob dydd neu'n ymgolli yn swyn natur [[Dyffryn Conwy]] ac [[Eryri]].
 
==Llyfryddiaeth==
*Isaac Foulkes (gol.), ''Gwaith Barddonol Trebor Mai'' (Lerpwl, 1883). Casgliad cynhwysfawr o'i gerddi, ynghyd â bywgraffiad diddorolllawn ffeithiau.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{comin|Category:Robert Williams (Trebor Mai)|Robert Williams (Trebor Mai)}}
 
{{DEFAULTSORT:Williams (Trebor Mai), Robert}}