Gwrthryfel y Twareg (2012): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
B newid hen enw, replaced: Libya → Libia using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Northern Mali conflict.svg|300px|bawd|Map yn dangos hawliadau tiriogaethol y gwrthryfelwyr a'u cyrchoedd hyd 1 Ebrill 2012.]]
Gwrthdaro rhwng y bobl [[Twareg]] a llywodraeth [[Mali]] yw '''Gwrthryfel y Twareg (2012)''', y gwrthryfel [[ymwahaniaeth|ymwahanol]] diweddaraf gan y bobl hon yn [[y Sahara]]. Cychwynnodd yn Ionawr 2012 dan arweiniad [[y Mudiad Cenedlaethol dros Ryddid Azawad]] (MNLA), mudiad seciwlar<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/rhyngwladol/69778-gwrthryfelwyr-tuareg-yn-datgan-annibyniaeth |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |teitl=Gwrthryfelwyr Tuareg yn datgan annibyniaeth |dyddiad=6 Ebrill 2012 |dyddiadcyrchiad=8 Ebrill 2012 }}</ref> sydd â'r nod o greu gwladwriaeth i'r Twareg yn ardal [[Azawad]]. Mae nifer o aelodau'r MNLA yn gyn-filwyr o'r [[Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol]] a'r fyddin Libiaidd a frwydrodd yn [[Rhyfel Cartref LibyaLibia]], a datgana'r gwrthryfelwyr eu bod wedi eu hysbrydoli gan [[y Gwanwyn Arabaidd]].<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://online.wsj.com/article/SB10001424052702303299604577327012064629348.html#articleTabs%3Darticle |teitl=Mali's Rebels Declare a New State in North |dyddiad=6 Ebrill 2012 |gwaith=[[Wall Street Journal]] |dyddiadcyrchad=8 Ebrill 2012 }}</ref> Ymunodd y mudiad [[Islamiaeth|Islamiaidd]] [[Ansar Dine]] â'r gwrthryfel, ond mae anghytundeb rhyngddynt a'r MNLA.
 
Ar 22 Mawrth, cafodd yr Arlywydd [[Amadou Toumani Touré]] ei ddisodli mewn ''[[coup d'état Mali, 2012|coup d'état]]'' gan fyddin Mali oedd yn feirniadol o'i ymgyrch. Cipiodd y gwrthryfelwyr dinasoedd [[Kidal]], [[Gao]] a [[Tombouctou]]. Ar 5 Ebrill, wedi iddynt gipio [[Douentza]], datganodd yr MNLA y bydd eu hymgyrch ymosodol yn dod i ben. Diwrnod yn hwyrach, datganodd hwy annibyniaeth Azawad ar Mali, gan obeithio ennill [[cydnabyddiaeth ryngwladol]]. Anwybyddwyd neu gondemniwyd y datganiad gan [[yr Undeb Affricanaidd]], [[yr Undeb Ewropeaidd]], a'r [[Unol Daleithiau]].<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.bbc.co.uk/news/world-africa-17640223 |teitl=Mali Tuareg rebels' call on independence rejected |dyddiad=6 Ebrill 2012 |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiadcyrchiad=8 Ebrill 2012 }}</ref> Gwrthodwyd annibyniaeth hefyd gan Ansar Dine, a bwysleisiodd yr angen i weithredu [[sharia]] yn Azawad.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.agi.it/english-version/world/elenco-notizie/201204062056-pol-ren1081-ansar_dine_supports_islam_and_sharia_in_mali |teitl=Ansar Dine supports "Islam and Sharia" in Mali |cyhoeddwr=AGI.it |dyddiad=6 Ebrill 2012 |dyddiadcyrchiad=8 Ebrill 2012 }}</ref> Ar yr un ddiwrnod datganodd [[ECOWAS]] y byddent yn cadw'r heddwch os cytunwyd ar gadoediad rhwng Mali a'r gwrthryfelwyr, ond os na yna byddent yn cyd-ymladd â lluoedd Mali yn erbyn y Twareg.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.aljazeera.com/news/africa/2012/04/201246232416740914.html |teitl=Mali junta says power transfer 'within days' |cyhoeddwr=[[Al Jazeera]] |dyddiad=7 Ebrill 2012 |dyddiadcyrchiad=8 Ebrill 2012 }}</ref>