Vauxhall Cross: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Vauxhall Cross yw pencadlys Gwasanaethau Cudd Prydain (British Secret Intelligence Service, neu MI6). Saif ar lannau’r Tafwys yn Llundain, ac agorwyd yn...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Vauxhall Cross yw pencadlys Gwasanaethau Cudd Prydain (British Secret Intelligence Service, neu [[MI6]]). Saif ar lannau’r Tafwys yn [[Llundain]], ac agorwyd yng Ngorffennaf 1994. Adeiladwyd gan Terry Farrel, a dylanwadwyd arno gan adeiladau fel y Battersea Power Station a themlau’r Maya a’r Aztec. Oherwydd bod cynifer o haenau gwahanol i’r adeilad, mae ganddo 60 to! Mae yna 25 gwahanol fath o wydr ar yr adeilad, a gwydriad triphlyg yn y ffenestri, am resymau diogelwch. Mae 5 o’r lloriau islaw lefel y dŵr, ac mae’r adeilad hefyd wedi ei amddiffyn gan ddwy ffos llawn dŵr. Gwelir Vauxhall Cross yn nifer o ffilmiau diweddar James Bond. Dangoswyd The World is Not Enough i staff MI6 yn yr adeilad, a chymeradwyon nhw pan gafodd eu pencadlys ei chwythu lan yn y ffilm.