Vauxhall Cross: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Vauxhall Cross yw pencadlys Gwasanaethau Cudd Prydain (British Secret Intelligence Service, neu [[MI6]]). Saif ar lannau’r [[Tafwys]] yn [[Llundain]], ac agorwyd yng Ngorffennaf 1994. Adeiladwyd gan Terry Farrel, a dylanwadwyd arno gan adeiladau fel y Battersea Power Station a themlau’r [[Maya]] a’r [[Aztec]]. Oherwydd bod cynifer o haenau gwahanol i’r adeilad, mae ganddo 60 to! Mae yna 25 gwahanol fath o wydr ar yr adeilad, a gwydriad triphlyg yn y ffenestri, am resymau diogelwch. Mae 5 o’r lloriau islaw lefel y dŵr, ac mae’r adeilad hefyd wedi ei amddiffyn gan ddwy ffos llawn dŵr. Gwelir Vauxhall Cross yn nifer o ffilmiau diweddar [[James Bond]]. Dangoswyd [[The World is Not Enough]] i staff [[MI6]] yn yr adeilad, a chymeradwyon nhw pan gafodd eu pencadlys ei chwythu lan yn y ffilm.