Malawi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
enw
B newid hen enw, replaced: Tanzania → Tansanïa, Zambia → Sambia using AWB
Llinell 52:
== Daearyddiaeth Malawi ==
{{prif|Daearyddiaeth Malawi}}
{{eginyn-adran}}
 
Gwlad hir a chul, heb arfordir, yw Malawi. Mae rhan ogleddol y wlad ar ochr orllewinol [[Llyn Malawi]]. Yn y gogledd, saif rhwng [[ZambiaSambia]] yn y gorllewin a [[TanzaniaTansanïa]] a [[Mosambic]] yn y dwyrain, yr ochr draw i [[Llyn Malawi]]. Yn y de, mae'r wlad yn ymestyn i mewn i Mosambic ar hyd dyffryn [[afon Shire]]. Nid oes gan Malawi arfordir, ond mae rheilffordd yn ei chysylltu a phorthladdoedd [[Nacala]] a [[Beira]] yn Mosambic.
 
Rhed y [[Dyffryn Hollt Mawr]] ar hyd y wlad o'r gogledd i'r de, a cheir nifer o lynnoedd yn y dyffryn. Llyn Malawi yw'r trydydd llyn yn Affrica o ran arwynebedd. Llifa afon Shire o ben deheuol y llyn i ymuno ag [[afon Zambezi]] yn Mosambic. Bob ochr i'r Dyffryn Hollt, mae'r wlad yn un fynyddig. Yn y gogledd, mae Ucheldir Nyika yn cyrraedd 2,600 medr uwch lefel y môr, ac i'r de o Lyn Malawi mae Ucheldiroedd Shire, sy'n cyrraedd uchder o 2,130 m ar Ucheldir Zomba a 3,002 m yn Mynyddoedd Mulanje.
 
Mae dwysder poblogaeth Malawi yn uchel i wlad yn Affrica. Y ddinas fwyaf, yn ôl pob tebyg, yw [[Blantyre, Malawi|Blantyre]], gyda phoblogaeth o tua 500,000, tra mae poblogaeth y brifddinas,
Llinell 67 ⟶ 66:
 
Yn ystod y [[16eg ganrif]], sefydlwyd gwladwriaeth [[Maravi]] gan gangen o'r [[Bantu (pobl)|bobloedd Bantu]] o gwmpas [[Llyn Malawi]]. Dywedir fod yr enw "Malawi" yn dod o "Maravi".
Tyfodd tiriogaeth y wladwriaeth i ymestyn o ardaloedd [[Tumbuka]] a Tonga yn y gogledd i ran isaf [[afon Shire]] yn y de, ac i'r gorllewin cyn belled a dyffrynoedd [[Luangwa]] a [[afon Zambezi|Zambezi]]. Roedd rheolwyr Maravi yn perthyn i dylwyth y Phiri, ac yn dwyn y teitl [[Kalonga]]. [[Manthimba]] oedd eu prifddinas. Prif iaith y Maravi oedd [[Chichewa]].
 
Yn y [[19eg ganrif]], symudodd nifer o bobloedd eraill i'r ardal. Daeth pobl y [[Ngoni]], neu'r Angoni, o ardal [[KwaZulu-Natal|Natal]], yn yr hyn sy'n awr yn [[De Affrica|Dde Affrica]], yn ffoi oddi wrth Ymerodraeth y [[Zulu]], oedd yn ymestyn ei grym dan [[Shaka]] Zulu. Grŵp arall o fewnfudwyr oedd yr [[Yao]] neu Ayao, o'r hyn sy'n awr yn ogledd [[Mosambic]]. Cyn hir roedd y Maravi yn dioddef oherwydd ymosodiadau eu cymdogion, y Ngoni a'r Yao, ac yn aml yn cael eu gwerthu fel caethweision. Roedd yr Yao wedi troi at [[Islam]], ac wedi datblygu partneriaeth a marsiandïwyr caethion [[Arab]]aidd.
Llinell 73 ⟶ 72:
Roedd y Portiwgeaid wedi ymsefydlu ar yr arfordir ers yr [[16eg ganrif]], ond ymddengys mai'r Ewropead cyntaf i gyrraedd Llyn Malawi oedd [[David Livingstone]] yn 1859. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, sefydlodd cenhadon Albanaidd yn y wlad. Yn 1891, daeth y diriogaeth yn than o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]], ac yn 1907 rhoddwyd yr enw ''Nyasaland'' arni.
 
Yn ystod y 1950au, bu nifer o ymgyrchoedd i geisio ennill annibyniaeth. Un o'r arweinwyr oedd Dr [[Hastings Kamuzu Banda]], a ddaeth yn Brif Weinidog pan ddaeth Malawi yn wlad annibynnol yn [[1964]], ac yn Arlywydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Dim ond un blaid a ganiateid, ac yn 1970, cyhoeddwyd Banda yn Arlywydd am Oes.
 
Yn 1993, pleidleisiodd pobl Malawi mewn refferendwm dros gael system ddemocrataidd, sydd wedi parhau ers hynny. [[Bingu wa Mutharika]] oedd yr arlywydd o 2004 tan ei farwolaeth yn Ebrill 2012.
 
== Gwleidyddiaeth Malawi ==
{{eginyn-adran}}
 
== Iaith a diwylliant ==
Llinell 85 ⟶ 83:
== Economi Malawi ==
{{prif|Economi Malawi}}
{{eginyn-adran}}
 
== Gweler hefyd ==
Llinell 95 ⟶ 92:
 
[[Categori:Malawi| ]]
 
 
{{eginyn-adran}}