Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hieronymus Bosch"

Ychwanegwyd 6,952 beit ,  6 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
{{Gwybodlen Person
[[Delwedd:'s-Hertogenbosch Rijksmonument 522493 Jeroen Bosch op de Markt.JPG|Cerflun o Hieronymus Bosch (gan [[August Falise]]), [['s-Hertogenbosch]]|bawd]]
| enw =Hieronymus Bosch
| delwedd =Jheronimus Bosch (cropped).jpg
| pennawd =Portread o Hieronymus Bosch, tua 1550<br>(Cydnabuwyd i Jacques Le Boucq)
| dyddiad_geni =Tua 1450
| man_geni =[['s-Hertogenbosch]], [[Brabant]], <br>[[Yr Iseldiroedd]]
| dyddiad_marw =9 Awst 1516
| man_marw =[['s-Hertogenbosch]], [[Brabant]], <br>[[Yr Iseldiroedd]]
| enwau_eraill =Ganwyd: <br> Jheronimus van Aken
| enwog_am =[[''Gardd y Pleserau Daearol'']]
| galwedigaeth =Peintiwr
}}
[[Delwedd:'s-Hertogenbosch Rijksmonument 522493 Jeroen Bosch op de Markt.JPG|Cerflun o Hieronymus Bosch (gan [[August Falise]]), [['s-Hertogenbosch]]|bawd]]
[[File:Bosch-signature.svg|frameless|right]]
[[Arlunydd]] [[Peintio Iseldiraidd cynnar|Iseldiraidd cynnar]] oedd '''Hieronymus Bosch''' (ganed ''' Jeroen Anthoniszoon van Aken''' c. 1450 – 9 Awst 1516). Mae ei waith yn enwog am ei ddefnydd o [[delwedd|ddelweddau]] [[ffantasi]] er mwyn darlunio [[cysyniad]]au a naratifau [[moesoldeb|moesol]] a [[crefydd|chrefyddol]].<ref>Catherine B. Scallen, ''The Art of the Northern Renaissance'' (Chantilly: The Teaching Company, 2007) Lecture 26</ref>
 
Mae'r enw ''Bosch'' yn dod o'r dref ble y ganwyd a threuliodd y rhan mwyaf o'i fywyd – [['s-Hertogenbosch]] (rhwng Rotterdam ac Eindhoven) a elwir yn ''Den Bosch'' ar lafur. Heddiw yn y dref mae cerflun ac amgueddfa iddo.
 
Gwaith enwocaf Hieronymus Bosch yw ''[[Gardd y Pleserau Daearol]]'', sy'n darlunio'n alegorïaidd pleserau'r cnawd. Cafodd ei baentio ar ddechrau'r 16eg ganrif (tua 1503-05 efallai). Mae ar gadw yn amgueddfa [[Museo del Prado]], [[Madrid]].
 
==Bywyd==
Ychydig iawn o wybodaeth sydd am fywyd neu hyfforddiant artistig Bosch. Ni adawodd lythyron neu ddyddiaduron, mae'r hyn sydd amdano yn dod o gofnodion 's-Hertogenbosch a llyfrau cofnodion ''Brawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid'' a fu'n sefydliad Cristnogol pwysig yn y dref. Amcangyfrif ei dyddiad geni'n dua 1450 ar sail portread ohono (gall fod yn hunanbortread) a wnaethpwyd cyn ei farwolaeth ym 1515. Mae'r darlun yn ei ddangos yn ei henaint, mwy na thebyg tua 60oed.<ref>Gibson, 15-16</ref>
 
Roedd ei daid Jan van Aken hefyd yn beintiwr a sonnir amdano am y tro cyntaf mewn cofnodion ym 1430. Cafodd Jan bump o feibion, bedwar ohonynt hefyd yn beintwyr. Roedd ei dad, Anthonius van Aken (marw tua 1478), yn gynghorydd artistig i ''Frawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid''<ref>Gibson, 15, 17</ref>
 
Cymerir bod ei dad neu un o'i ewythr a dysgodd i beintio <ref>Gibson, 19</ref> Mae Bosch yn ymddangos cyntaf ar gofnodon dinesig ar 5 Ebrill, 1474, ble a enwir gyda dau frawd a chwaer.
 
Roedd 's-Hertogenbosch yn dref lewyrchus yn y 15fed ganrif ond ym 1463 fe losgwyd 4,000 o dai mewn tân trychinebus pan roedd Bosch tua 13 oed a mwy na thebyg yn dyst i'r digwyddiad erchyll.
 
Daeth yn beintiwr poblogaidd yn ystod ei fywyd gan dderbyn comisiynau o wledydd tramor. Ym 1488 ymunodd a'r ''Brawdoliaeth y Forwyn Fair Fendigaid'', sefydliad Cristionogol Ceidwadol gyda rhyw 40 o aelodau ymhlith dinasyddion uchel eu parch 's-Hertogenbosch a rhyw o 7,000 aelodau eraill trwy Ewrop cyfan.
 
Rhywbryd rhwng 1479 a 1481, priododd Bosch Aleyt Goyaerts van den Meerveen, a oedd ychydig o flynyddoedd yn hŷn. Symudodd y cwpl i'r dref gyfagos Oirschot ble roedd ei wraig wedi etifeddu tŷ a thiriodd o'i theulu cyfoethog.<ref>Valery, Paul. "The Phase of Doubt, A Critical Reflection".</ref>
 
Mae cofnod yn archifau'r Brawdoliaeth yn nodi marwolaeth Bosch ym 1516. <ref>Gibson, 18</ref>
 
==Celf==
[[File:The Garden of Earthly Delights by Bosch High Resolution.jpg|thumb|400px|''[[Gardd y Pleserau Daearol]]'' amgeuddfa [[Museo del Prado]], [[Madrid]]]]
 
Cynhyrchodd Bosch sawl triptych (darlun tri phanel). Yn cynnwys ei enwocaf ''[[Gardd y Pleserau Daearol]]'' (y teitl gwreiddiol yn anhysbys). Mae'r darlun, yn dangos paradwys gydag [[Adda ac Efa]] a llawer o anifeiliaid anhygoel ar y panel chwith, pleserau'r ddaear gyda phobl noeth, ffrwythau ac adar yn y panel canol, ac wedyn uffern ar y panel chwith gyda delweddau o gosbau erchyll i fathau gwahanol o bechaduriaid.
 
Wrth edrych yn nes ar y paneli, gwelir Duw yn creu'r ddaear. Mae'r darluniau – yn arbennig panel uffern – yn cael ei darlunio'n weddol rydd, yn wahanol iawn i arddull peintio [[Fflandrys]] y cyfnod.<ref> 'Bosch and the Delights of Hell'[http://ffh.films.com/id/12404/Hieronymus_Bosch_The_Delights_of_Hell.htm][https://www.youtube.com/watch?v=CNeUpz-Su68]</ref>
 
Ni roddodd Bosch y dyddiad ar ei beintiadau. Ond yn anarferol am y cyfnod fe lofnododd nifer ohonynt (er bod amheuaeth ar sawl llun arall sydd yn ymddangos i gynnwys ei lofnod). Mae llai na 25 o beintiadau sydd wedi'u goroesi a gydnabyddir yn bendant i Bosch. Ar ddiwedd y 16eg ganrif ddaeth nifer o ddarluniau Bosch i feddiant [[Felipe II, brenin Sbaen]], fel canlyniad mae amgueddfa [[Museo del Prado]] ym [[Madrid]] bellach yn berchen a ''[[Gardd y Pleserau Daearol]]'', ''Addoliad y Doethion'', ''Y Saith Pechod Marwol a'r Pedwar Peth Olaf'', ''Tynnu Carreg Wallgofrwydd (Gwellhad i Ffolineb).''
 
==Dadansoddiadau==
Yn yr 20fed ganrif, bu diddordeb newydd yn Bosch a chynigwyd amryw o ddadansoddiadau ar gyfer ei luniau. Rhai yn dadlau bod ei waith wedi'i ysbrydoli gan syniadaeth 'hereticaidd' (e.e. syniadau'r [[Cathariaid]] a oedd yn grefydd Gristionogol y canol oesoedd a welwyd yn 'hereticaidd' gan yr Eglwys Gatholig). Eraill yn dadlau bod pobl tref 's-Hertogenbosch yn yr adeg honno, er yn ffyddlon i'r Eglwys Gatholig, yn wrthwynebau’n gryf dogmatiaeth, llygredigaeth a grym yr offeiriaid. Astudiodd y llenor [[Erasmus]] yn 's-Hertogenbosch ac mae rhai wedi tynnu cymhariaeth rhwng ei feirniadaeth o lygredigaeth yr eglwys a gwaith Bosch.<ref>''The Secret Life of Paintings'' Richard Foster & Pamela Tudor-Craig ISBN 0-85115-439-5</ref>
 
[[File:The Owl's Nest Bosch.jpg|thumb|''Nith y Dylluan''. Rotterdam, Museum Boijmans Van Beuningen]]
 
Mae eraill yn dadlau roedd gwaith Bosch yn adloniant, yn diddanu'r gynulleidfa gyd bwystfilod a ffantasi.<ref>Gibson, 9</ref> Tra bod damcaniaeth arall yn credu nad oedd gwaith Bosch yn ffantasi i bobl ei oes, gan adlewyrchu syniadau cyffredin o foesoldeb y byd, nefoedd ac uffern y cyfnod.
 
[[File:Jheronimus Bosch 006 central panel 03 detail 01.jpg|thumb|Llofnod Bosch wedi'i sillafu ''Jheronimǔs boſch'' o'r triptych ''Y Santau Meudwy'']]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadauReflist}}
* Bax, Dirk. (1949), “Ontcijfering van Jeroen Bosch”. Den Haag.
* Boulboullé, Guido, (2008), "Groteske Angst. Die Höllenphantasien des Hieronymus Bosch". In: Auffarth, Christoph, and Kerth, Sonja (Eds): "Glaubensstreit und Gelächter: Reformation und Lachkultur im Mittelalter und in der Frühen Neuzeit", LIT Verlag Berlin, pp.&nbsp;55–78.
* Dijck, G.C.M. van (2001). “Op zoek naar Jheronimus van Aken alias Bosch. De feiten. Familie, vrienden en opdrachtgevers”. Zaltbommel: Europese Bibliotheek. ISBN 90-288-2687-4
* Fischer, Stefan. "Hieronymus Bosch. The Complete Works", Cologne 2013.
* Gibson, Walter S (1973). “Hieronymus Bosch”. New York: Thames and Hudson. ISBN 0-500-20134-X
* Koldeweij, Jos & Bernard Vermet & Barbera van Kooij: ''Hieronymus Bosch. New Insights Into His Life and Work'', NAi Publishers, Rotterdam 2001. ISBN 90-5662-214-5
* Marijnissen, Roger H. ([1987]). “Hiëronymus Bosch. Het volledige oeuvre”. Haarlem: Gottmer/Brecht. ISBN 90-230-0651-8
* Pokorny, Erwin (2010), "Hieronymus Bosch und das Paradies der Wollust". In: "Frühneuzeit-Info", Jg. 21, Heft 1+2 (Sonderband „Die Sieben Todsünden in der Frühen Neuzeit“), pp.&nbsp;22–34.
 
 
==Dolennau allanol==
{{Commons|Hieronymus Bosch}}
* [http://www.jheronimusbosch-artcenter.nl/Engels/index.php Jheronimus Bosch Art Center]
*[http://www.boschbruegel.com Cymdeithas Bosch Bruegel]
*[http://www.all-art.org/early_renaissance/bosch01biography.html Hieronymus Bosch "Between Heaven and Hell" yn "A World History of Art"]
2,466

golygiad