Tanit: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Oriel: Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Catss, replaced: Tunisia → Tiwnisia using AWB
B newid hen enw, replaced: Tunisia → Tiwnisia using AWB
Llinell 6:
Symbol Tanit oedd sylfaen trionglaidd â llinell syth dros ei ben gyda chylch ar ben hynny. Weithiau mae dau ben y llinell wedi'u troi i fyny. Mae sawl esboniad posibl am symbolaeth gyfoethog 'Arwydd Tanit'. Gellid dadlau ei fod yn portreadu ffigwr benywaidd - Tanit fel mam-dduwies - ond mae'n awgrymu hefyd mynydd (y tir / y Ddaear) a lleuad lawn. Mae rhai pobl yn gweld dylanwad symbol yr [[ankh]] (Bywyd) o'r [[Hen Aifft]] yn ogystal.
 
Yn [[TunisiaTiwnisia]] heddiw mae arwydd Tanit i'w gweld ymhobman, o arwydd brand y pacedi sigaret mwyaf poblogaidd yn y wlad i arwyddion, lluniau a hysbysebion o bob math. Mae rhai anthropolegwyr yn gweld parhad o addoliad Tanit - ar lefel symbolaidd o leiaf - mewn rhai [[llên gwerin|arferion a choelion gwerin]], gan gynnwys yr amiwlet [[khamsa]] sy'n boblogaidd gan ferched yn arbennig. Mae'r agwedd yma ar addoliad Tanit yn tanlinellu ei bod wedi tyfu'n dduwies frodorol, Affricanaidd - efallai trwy gael ei cymathu ag un neu ragor o dduwiesau [[Berberiaid|Berberaidd]] a fodolai eisoes. Un o'r defodau a gysylltir â'r dduwies heddiw yw'r arwyddion [[henna]] a baentir ar ddwylo merched ifainc, yn arbennig pan am briodi. Ceir nifer o ganeuon poblogaidd yn ymwneud â hi yn ogystal, sy'n cael eu canu gan merched a phlant i ofyn bendith y glaw: 'Y Fam TANbou' neu'r 'Fam TANgou' (ac ati) yw ei henw (dydi'r elfen 'Tan' ddim yn newid).
 
==Oriel==