Lewis William Lewis (Llew Llwyfo): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Anatiomaros y dudalen Lewis William Lewis i Lewis William Lewis (Llew Llwyfo): safoni
ehangu, delwedd
Llinell 1:
[[File:Lewis William Lewis (Llew Llwyfo, 1831-1901) NLW3364260.jpg|bawd|Llew Llwyfo tua 1875.]]
Bardd, nofelydd, canwr a newyddiadurwr [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Lewis William Lewis''', enw barddol '''Llew Llwyfo''' ([[31 Mawrth]] [[1831]] – [[23 Mawrth]] [[1901]]), a oedd yn adnabyddus wrth ei [[enw barddol]] '''Llew Llwyfo''' (neu "Y Llew" ar lafar).
 
==Bywgraffiad==
[[Delwedd:Anerchiad i gyfaill NLW3362729.jpg|200px|bawd|chwith|Cerdd gan "y Llew" yn ei law ei hun at ei gyfaill y ffotograffydd John Thomas]]
Ganed ef ym mhentref [[Penysarn]], [[Llanwenllwyfo]], ger [[Amlwch]], [[Ynys Môn]]. Bu'n gweithio yng ngwaith copr [[Mynydd Parys]] a gyfnod, yna bu'n brentis brethynnwr ym [[Bangor|Mangor]] cyn cadw siop ei hun ym Mhensarn ac wedyn ysgol yn [[Llanallgo]]. Bu'n gweithio ar staff nifer o bapurau newydd Cymraeg mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys cyfnod fel golygydd ''[[Y Glorian]]'' yng [[Casnewydd|Nghasnewydd]]. Bu yn yr [[Unol Daleithiau]] o 1868 hyd 1874.<ref name="Eryl Wyn Rowlands 2001">Eryl Wyn Rowlands, ''Y Llew oedd ar y Llwyfan'' (Caernarfon, 2001).</ref>
 
Daeth yn adnabyddus iawn fel canwr mewn cyngherddau, ac fel arweinydd eisteddfodau. Fel bardd, enillodd nifer o wobrau yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]], gan gynnwys y Goron yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1888]] a [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1895|Llanelli 1895]].<ref name="Eryl Wyn Rowlands 2001"/>
 
Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi. Fe'i cofir hefyd fel un o arloeswyr cynnar y [[nofel]] yn Gymraeg, yn enwedig am ''Llewelyn Parri'' (1855) a ''Huw Huws'' (1860).
 
By farw yn [[Y Rhyl]] a chladdwyd ef ym Mynwent [[Llanbeblig]], Caernarfon.<ref name="Eryl Wyn Rowlands 2001"/>
Llinell 29 ⟶ 32:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{comin|Category:Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)|Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)}}
 
{{DEFAULTSORT:Lewis, William Lewis}}