Bridget Bevan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion, delwedd, categori
Llinell 1:
[[Delwedd:Madam Bevan.jpg|200px250px|bawd|Madam Bevan]]
Cymwynaswraig ac addysgydd o [[Cymry|Gymraes]] oedd '''Bridget Bevan''' (''née'' Vaughan), a adnabyddir hefyd fel '''Madam Bevan''' (bedyddwyd 30 [[Hydref]] [[1698]] – [[11 Rhagfyr]] [[1779]]). Hi oedd prif gynheiliad gwaith [[addysg]]ol y gweinidog [[anghydffurfiaeth|Anghydffurfiol]] [[Griffith Jones]] o [[Llanddowror|Landdowror]], sefydlydd yr [[Ysgolion Cylchynol Cymreig]].
 
==BywydBywgraffiad==
Ganwyd Bridget Bevan yn y Derllys, [[Llannewydd]], yn [[Sir Gaerfyrddin]], ddiwedd Hydref 1698, yn ferch ieuengaf y philanthropydd [[John Vaughan]] (1663-1722), noddwr ysgolion y [[Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol|Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]] yn y sir, a'i wraig, Elizabeth Thomas (m. 1721). Ar 30 Rhagfyr [[1721]] priododd yr AS lleol a chyfreithiwr [[Arthur Bevan]] (1689-1743) yn eglwys Merthyr. Roedd hi'n etifeddes ystad ei ewythr John Vaughan o'r Derllys.
 
[[Delwedd:Madam Bevan's school, Trefdraeth (Penf) NLW3363843.jpg|200px|bawd|chwith|Ysgol Madam Bevan yn [[Trefdraeth|Nhrefdraeth]], [[Sir Benfro]].]]
Yn 1731 dechreuodd noddi gwaith Griffith Jones i sefydlu [[ysgol]] arbrofol ym mhentref [[Llanddowror]], Sir Gaerfyrddin. O'r cnewyllyn hwn tyfodd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig, a symudai o bentref i bentref trwy Gymru yn cyflwyno addysg sylfaenol i blant ac oedolion a'u dysgu i darllen [[Cymraeg]]. Cyfranodd Madam Bevan lawer o'i chyfoeth sylweddol i'r ysgolion arloesol hyn. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 1755, symudodd Griffith Jones i fyw ym mhlasdy Madam Bevan; pan fu farw yntau yn 1761, ysgwyddodd hi faich y brosiect. Rhwng 1736 a 1776, cynhaliwyd 6,321 o ysgolion a rhoddwyd elfennau addysg Gymraeg i 304,475 o blant ac oedolion, sef bron i hanner poblogaeth Cymru.
 
Bu farw Madam Bevan yn [[Talacharn|Nhalacharn]] yn 1779. Gadawodd £10,000 i'r ysgolion (swm sylweddol iawn yn y [[18fed ganrif]]). Ond gwrthynebodd rhai o'i pherthnasau yr ewyllys am 30 o flynyddoedd, ac erbyn i'r arian gael ei ryddhau yn [[1804]] roedd y swm wedi tyfu i £30,000.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==
Llinell 17 ⟶ 21:
 
{{DEFAULTSORT:Bevan, Bridget}}
[[Categori:AddysgAddysgwyr yng NghymruCymreig]]
[[Categori:Cymry'r 18fed ganrif]]
[[Categori:Genedigaethau 1698]]
[[Categori:Marwolaethau 1779]]
[[Categori:Pobl o Sir Gaerfyrddin]]
[[Categori:Addysg yng Nghymru]]
 
{{Authority control}}