William Thomas (Islwyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd. comin
Llinell 14:
}}
:''Am ddefnydd arall o'r enw '''Islwyn''' gweler [[Islwyn|yma]].''
Bardd o Gymro oedd '''William Thomas''' ([[3 Ebrill]], [[1832]] - [[20 Tachwedd]], [[1878]]), asy'n anwydadnabyddus wrth ei [[enw barddol]] '''Islwyn'''. Fe'i ganed ger yr [[Ynys-ddu]] yng [[Gwent|Ngwent]] ([[Caerffili (sir)|Bwrsdeisdref Sirol Caerffili]]).
 
==Ei OesBywgraffiad==
Roedd Islwyn yn fab i Morgan a Margaret Thomas, yr ieuengaf o naw plentyn. Cafodd ei eni mewn tŷ ger pentref bychan Yr Ynys Ddu, yn [[Dyffryn Sirhywi|Nyffryn Sirhywi]], hanner ffordd rhwng [[Tredegar]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]], wrth droed [[Mynydd Islwyn]], ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
 
Roedd ei rieni'n weddol gefnog a chafodd addysg yn ysgolion Tredegar, Casnewydd, [[Y Bont Faen]] ac [[Abertawe]]. Bwriedid iddo fod yn dirfesurydd. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe cyfarfu â merch ieuanc o'r enw Anne Bowen. Roeddent yn bwriadu priodi ond bu farw Anne ar 24 Hydref [[1853]] yn ddisymwth iawn, yn ugain oed; mae ôl y brofedigaeth honno a'r hiraeth a ddeilliodd ohoni i'w weld ar lawer o waith Islwyn.
 
Cafodd y barddIslwyn droedigaeth grefyddol a dechreuodd farddoni mewn difrif. Yn [[1854]] dechreuodd bregethu gyda'r [[Methodistiaid]]; fe'i ordeiniwyd yn [[1859]]. Priododd Martha Davies o Abertawe yn [[1864]]. Bu farw ar 20 Tachwedd, 1878, yn 46 oed. Nid anghofiodd ei gariad gyntaf gydol ei oes. Yn ôl un tyst, ei eiriau olaf oedd, "Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. 'Rwyf yn mynd at Anne 'nawr".
 
Mae amgueddfa goffa i Islwyn yng Nghapel y Babell, ger Ynys-ddu, yng ngofal Cymdeithas Goffa Islwyn.
 
==Ei gymeriadCymeriad==
[[Delwedd:Islwyn 02 ar waelod mynydd Islwyn.JPG|250px|bawd|Cartref Islwyn (y tŷ olaf ar y dde) wrth droed Mynydd Islwyn]]
Dyma'r portread o Islwyn a rydd ei gyfaill oes [[Daniel Davies]] ohono:
:Bychan ydoedd o gorffolaeth, ac ysgafn, tua phump troedfedd a chwech modfedd o daldra; yr oedd o bryd tywyll, a'i ymddangosiad yn llednais a gwylaidd; yr oedd y pen yn fawr... Yr oedd y wyneb yn hir, ac yn hardd, a'r trwyn yn lluniaidd, heb fod yn fawr, a'r gwefusau hytrach yn drwchus, a thoriad y genau'n brydferth; yr oedd y talcen yn fawr iawn... yr oedd y llygaid, y rhai oeddynt yn llechu o dan aeliau trymion, yn llawn, yn fawrion, a disglaer, a'u trem ymhell.<ref>o'r rhagymadrodd i ''Gwaith Barddonol Islwyn'', gol. [[Owen M. Edwards]] (Wrecsam, 1897).</ref>
 
==EiGwaith waithllenyddol==
[[Delwedd:IslwynRevd 02William arThomas waelod(Islwyn, mynydd1832-78) IslwynNLW3363893.JPGjpg|250px|bawd|Cartref Islwyn, (ytua tŷ olaf ar y dde) wrth droed Mynydd Islwyn1875]]
Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth yn gynnar. Ei brif athrawon barddol oedd [[Gwilym Ilid]], ei weinidog a'i frawd yng nghyfraith [[Daniel Jenkyns]] ac [[Aneurin Fardd]]. Cystadleuai yn yr eisteddfodau lleol a'r [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod Genedlaethol]] ac enillodd y goron am ei awdl ar "[[Carnhuanawc]]" yn Eisteddfod [[Y Fenni]] yn [[1853]]. Enillodd amryw gadeiriau; yn [[Y Rhyl]] am awdl "Y Nos" yn [[1870]], yng [[Caergybi|Nhgaergybi]] am awdl "Moses" yn [[1872]], yng [[Caerffili|Nhgaerffili]] am awdl "Cartref" yn [[1874]] ac yn [[Treherbert|Nhreherbert]] am awdl "Y Nefoedd" yn [[1877]].
 
Llinell 57 ⟶ 58:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{comin|Category:William Thomas (Islwyn)|William Thomas (Islwyn)}}
 
{{DEFAULTSORT:Thomas, William}}