Cerdd Dant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd. comin
Llinell 1:
[[Delwedd:Old Colwyn Cerdd Dant Festival, 1958 (10977659416).jpg|250px|bawd|Gŵyl Cerdd Dant Hen Golwyn, 1958]]
[[Delwedd:Julius Caesar Ibbetson - Penillion singing near Conwy.png|250px|bawd|Cerdd Dant yn y 18fed ganrif: ''Penillion singing near Conwy'', paentiad gan Julius Caesar Ibbetson, 1792.]]
Math draddodiadol o [[cerddoriaeth|gerddoriaeth]] sy'n unigryw i [[Cymru|Gymru]] yw '''Cerdd Dant''' (weithiau '''Cerdd Dannau''') neu '''canu penillion'''.
 
==Hanes==
Yn yr Oesoedd Canol roedd Cerdd Dant yn sefyll ochr yn ochr â [[Cerdd Dafod|Cherdd Dafod]] ac yn cynrychioli crefft y cerddor o'i gwahaniaethu oddi wrth crefft y [[bardd]]. Roeddynt yn perthyn yn agos i'w gilydd. Credir fod y beirdd - neu'r [[datgeiniad|datgeiniaid]] - yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant cerddorol, ond mae'r manylion yn ansicr.
 
Heddiw, gellir diffinio'r grefft Cerdd Dant fel: y canwr (neu grŵp o gantorion) yn canu barddoniaeth mewn [[gwrthbwynt]] ag alaw neu gainc a chwaraeir fel arfer ar y [[telyn|delyn]]. Mae llawer o gystadleuthau cerdd dant mewn [[eisteddfod]]au, a chynhelir yr [[Gŵyl Gerdd Dant|Ŵyl Gerdd Dant]] yn flynyddol. Mae Cerdd Dant, bellach, yn llawer mwy caeth i reolau nag ydoedd gan mlynedd yn ôl; gellir dweud mai effaith cystadlu yw hyn.
 
==Nodweddion==
Mae cerdd dant yn cynnwys canu'r delyn a chanwr/chantorion. Cenir y geiriau dros gyfeiliant y delyn. Mae’r delyn yn cychwyn drwy chwarae cainc ac wedyn ymuna'r canwr/cantorion gan ganu barddoniaeth ar alaw hollol wahanol, ac mae'r ddau yn gorffen ar union yr un pryd. o'r ugeinfed ganrif daw’r recordiau cynharaf o ganu cerdd ddant. Dyma enghraifft o ddarn o farddoniaeth sy’n cyd-fynd gyda'r delyn:
 
Llinell 15 ⟶ 18:
==Llyfryddiaeth==
*Aled Lloyd Davies, ''Hud a Hanes Cerdd Dannau'' (1984)
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Gweler hefyd==
*[[Cerdd Dafod]]
 
{{comin|Category:Cerdd Dant|Cerdd Dant}}
 
[[Categori:Cerdd Dant| ]]