Car solar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nerwydd
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Cerbyd i deithio ynddo, ac sy'n creu ei [[trydan|drydan]] ei hun ydy '''car solar'''. Unir nifer o decholegau amgen a blaengar, gan gynnwys technolegau diweddaraf y diwydiant [[awyren]]nau, beiciau, trenau a'r dechnoleg sydd y tu ôl i'r ceir confensiynol diweddaraf.
 
Yn wahanol i'r [[car trydan]] arferol, sy'n cael ei wefru o ffynhonnell allanol e.e. garej neu brif gyflenwad y tŷ, mae'r car solar yn cynhyrchu ei drydan ei hun. Dyma brif gyfyngiad y car solar, gan ei fod yn ddibynol iawn ar yr haul. Ers 2011, fodd bynnag, datblygoddddatblygodd y dechnoleg cymaint fel y lansiwyd ceir solar masnachol ar gyfer ffyrdd cyhoeddus. Cyn hynny, fe'u crëwyd ar gyfer cystadleuthau'n unig.
 
Defnyddir celloedd ffotofoltaic (neu ''PV'') i droi golau'r haul yn drydan. Ond yn wahanol i gelloedd solar ar do adeilad, sy'n creu [[ynni thermal]], mae'r celloedd hyn yn cynhyrchu trydan a ddefnyddir yn y fan a'r lle.<ref>[http://dieoff.org/page84.htm Pimentel, D. "Renewable Energy: Economic and Environmental Issues";] adalwyd 18 Ionawr 2015</ref> Pan dyrr y [[ffoton]]au'n erbyn y celloedd PV, maent yn cynhyrfu'r [[electron]]au, gan achosi iddynt lifo ar hyd gwifrenwifren. Hyn sy'n 'creu'r' [[cerynt]] trydan. Defnyddir defnyddiau sy'n lled-ddargludyddion fel [[silicon]] ac [[aloi]]on [[indiwm]], [[galiwm]] a [[nitrogen]]. Silicon yw'r defnydd mwyaf cyffredin gan fod ei effeithlonrwydd dyrannol mor uchel: 15-20%.
 
<gallery>