Hebraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mae '''Hebraeg''' yn [[iaith]] [[Semitaidd]] a siaredir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn [[Israel]] a thros y byd. Iaith wreiddiol yr [[ysgrythur]]au [[Iddewiaeth|Iddewig]] ([[Hen Destament]] [[y Beibl]] [[Cristnogaeth|Cristnogol]]) yw ''Hebraeg Beiblaidd'' (neu ''Glasurol''). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr ail ganrif OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr ugeinfed ganrif.
 
Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae [[Iddew-Almaeneg]] neu Yiddish-Daitsch a [[Ladino]] (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra fubu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.
 
Un o wyrthiau ieithyddol yr ugeinfed ganrif oedd adfywiad Hebraeg, na fubu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i [[Israel]], o [[Ewrop]], [[Unol Daleithiau America]], yr hen [[Undeb Sofietaidd]] ac [[Affrica]], er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau [[Wlpan]]. Mae llyfr gan [[Norman Berdichevsky]], 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.<ref>[http://www.frontpagemag.com/2014/jamie-glazov/modern-hebrew-the-past-and-future-of-a-revitalized-language/ www.frontpagemag.com;] adalwyd 26 Awst 2014</ref>
 
Ysgrifennir Hebraeg yn ei [[gwyddor Hebraeg|gwyddor]] ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 cymeriad yn yr wyddor, pob un yn [[cytsain|gytsain]]. Dynodir [[llafariad|llafariaid]] gan system o nodau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.