Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim cyfeiriadaeth
Dim crynodeb golygu
Llinell 36:
[[Delwedd:Castell Aberystwyth 297568.jpg|bawd|chwith|Rhan o furiau [[Castell Aberystwyth]] gyda [[Craig-glais]] yn y cefndir.]]
===Yr Oesoedd Canol===
Mae'n debyg mai'r cofnod hanesyddol cyntaf o Aberystwyth oedd adeiladu caer yn 1109, gan [[Gilbert Fitz Richard]] (taid [[Richard de Clare, 2il Iarll Penfro|Richard de Clare]], sy'n adnabyddus am ei rôl yn arwain [[Goresgyniad Normanaidd Iwerddon|Goresgyniad y Normaniaid ar Iwerddon]]). Rhoddwyd tiroedd ac arglwyddiaeth [[Aberteifi]] i Gilbert Fitz Richard, gan [[Harri I, brenin Lloegr]], gan gynnwys [[Castell Aberteifi]]. Lleolwyd y caer yn Aberystwyth tua milltir a hanner i'r de o safle'r dref heddiw, ar fryn uwchben glannau deheuol yr Afon Ystwyth.<ref>Griffiths, Ralph A., "The Three Castles at Aberystwyth", ''Archaeologia Cambrensis'', V.126, 1977, pp. 74-87</ref> Adeiladodd Edmwnt, brawd y brenin [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] gastell newydd yn 1277, wedi iddo gael ei ddinistrio gan y Cymry.<ref>Spurgeon, C.J., ''The Castle and Borough of Aberystwyth'', 1973, p. 5</ref> Ond, adeiladwyd ei gastell ef mewn safle gwahanol, ar bwynt uchel y dref, sef Bryn Castell. Rhwng 1404 a 1408 roedd [[Castell Aberystwyth]] yn nwylo [[Owain Glyndŵr]], ond ildiodd i'r Tywysog Harri, a ddaeth yn Harri V, brenin Lloegr yn ddiweddarach. Yn fuan wedi hyn cyfunwyd y dref gyda Ville de Lampadarn (enw hynafol Llanbadarn Gaerog, er mwyn ei wahaniaethugwahaniaethu oddi wrth [[Llanbadarn Fawr]], y pentref (1.6&nbsp;km) i'r gorllewin). Dyma sut y cyfeirir atoati yn y [[Siarter Brenhinol]] a roddwyd gan [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]], ond fel Aberystwyth y cyfeirwyd atoati yn nogfennau o oes [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|Elizabeth I]].<ref>Griffiths, R.A., (1978), 'Aberystwyth' in Griffiths, R.A., ''Boroughs of Mediaeval Wales'', 19, 25-7</ref>
 
Agorwyd un o [[Banciau Cymru|fanciau annibynnol cynharaf Cymru]], [[Banc y Llong]] yn y dref yn [[1762]].
 
==Economi==
Mae Aberystwyth yn dref gwyliau glan môr poblogaiddboblogaidd. Yn ogystal â dwy [[sinema]] a [[cwrs golff|chwrs golff]], mae ei atyniadau yn cynnwys:
* [[Rheilffordd ffwniciwlar]] ar [[Craig-glais|Graig-glais]], sef [[Rheilffordd y Graig]]
[[Delwedd:Aberystwyth Cliff Railway by Aberdare Blog.jpg|bawd|Gorsaf [[Rheilffordd y Graig]] ar ben rhodfa'r môr.]]
Llinell 52:
* Golff gwallgof ar y Prom
 
Mae [[hufenfa]] [[ffermio organig|organig]] cwmni [[Rachel's Organic]] wedi ei leolilleoli ar ystad ddiwydiannol Glan yr Afon, a dyma'r cyflogwr mwyaf yn y sector breifat yn Aberystwyth.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.rachelsorganic.co.uk/about-us/jobs-at-rachels-organics| teitl=Jobs - About Us| cyhoeddwr=Rachel's Organics| dyddiadcyrchiad=2010-05-31}}</ref><ref name=BBC8247512>{{dyf gwe|url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8247512.stm| teitl=Tour to test claims of recovery| awdur=Nick Servini| cyhoeddwr=BBC| dyddiad=2009-09-10| dyddiadcyrchiad=2010-05-31}}</ref> Mae rhai yn honni fod y dref wedi datblygu economi fach ei hun gan ei fod wedi ei ynysu oddi wrth gweddill y wlad: mae Rachel yn cyflogi 130, a 1,000 wedi eu cyflogi yn swyddfeydd [[Llywodraeth Cymru]] yn y dref; cyflenwir y rhan helaeth o weithwyr y sector cyflog isel gan fyfyrwyr.<ref name=BBC8247512/>
[[Delwedd:AberystwythLB08.JPG|chwith|bawd|Y pier]]
 
Daeth papur newydd y ''[[Cambrian News]]'' i Aberystwyth o'r [[Y Bala|Bala]] ym 1870, wedi iddo gael ei brynu gan Syr John Gibson. Argraffwyd yn [[Croes-oswallt|Nghroes-oswallt]], ac ym mis Mai 1880 cyfunodd y papur gyda'r cyn-[[Malthouse]] Dan Dre. Y teulu Read oedd yn berchen arniarno o 1926, ac ym 1993, contractwyd yr argraffu allan, gan alluogi i'r cwmni symyd eu staff golygyddol i swyddfa ar Barc Gwyddoniaeth ar Gefnllan, ger Llanbadarn Fawr. Wedi marwolaeth Henry Read, prynwyd y papur gan [[Ray Tindle|Syr Ray Tindle]] ym 1999, gan ddod yn un o dros 200 o bapurau wythnosol ym Mhrydain sydd yn eiddo iddo. O ran maint ei gylchrediad wythnosol, y ''Cambrian News'' sydd yn ail yng Nghymru erbyn hyn, gan werthu 24,000 copi mewn chwe fersiwn olygyddol, a ddarllenir gan 60,000 ar draws 3000 milltir sgwar.<ref name=Cambrian150>{{dyf gwe| url=http://www.cambrian-news.co.uk/lifestyle/i/3903/| teitl=150 year celebration| cyhoeddwr=Cambrian News| dyddiad=2010-01-08| dyddiadcyrchiad=2010-05-31}}</ref>
 
Lleolir gwasg [[Y Lolfa]] ym mhentref [[Tal-y-bont, Ceredigion]] nid nepell o Aberystwyth. Mae'r wasg yn cyflogi oddeutu hanner cant o bobl y fro. Sefydlwyd y wasg gan Robat Gruffudd, ond bellach mae'r wasg yn nwylo diogel ei feibion Garmon a Lefi. Dyma bellach un o'r gweisg mwyaf sy'n cyhoeddi cyfran helaeth o'i llyfrau drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â [[Gwasg Gomer]] o Landysul, [[Gwasg Carreg Gwalch]] o Lanrwst a [[Gwasg y Dref Wen]] o Gaerdydd.