Llanfyllin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: camdreiglad
Llinell 32:
Un o'r tai harddaf, gyda 5 bae, yw 'Manor House' a godwyd yn 1737; i'r gogledd-ddwyrain o'r dref saif [[Neuadd Bodfach]], hen gartref Teulu Kyffin. Codwyd y neuadd yn wreiddiol wedi i [[Einion Efell]] etifeddu'r ystâd yn 1160 oddi wrth ei dad [[Madog ap Meredydd]], Tywysog Powys. Codwyd y tŷ gwreiddiol wedi i'r hen [[Castell mwnt a beili|fwnt a beili]] ('[[Tomen yr Allt]]') gael ei ddymchwel yn 1256.
 
Ceir stori garu anghyffredin yn yr ardal, yn dilyn [[Rhyfeloedd Napoleon]] (rhwng 1804 a 1815) pan ddaeth carcharor rhyfel, Ffrengig, Pierre Augeraud i Lanfyllin a syrthio dros ei ben a'i glustiau gydaâ merch y rheithor lleol, Mary Williams. Mewn ystafell gyferbyn a'r eglwys frics (uwch ben y fferyllfa heddiw), ceir ystafell gyda 13 o luniau rhamantaidd iawn a beintiwyd tua 1812 gan Pierre ac sy'n gorchuddio'r waliau'n gyfangwbwl. Roedd wedi'i ddal yn 1812 yn [[Badajoz]], [[Sbaen]] yn un o 148 o swyddogion a ddygwyd i Lanfyllin, fel carcharorion rhyfel; roedd yn 25 mlwydd oed, yn dal gyda gwallt brown a llygaid glas.<ref>[http://www.secretdiner.co.uk/USERIMAGES/Llanfyllin%20tale%20from%20a%20romantic%20churchyard..doc www.secretdiner.co.uk;] Ffeil Word; adalwyd 16 Ionawr 2015</ref> Pan glywodd tad Mary am y garwriaeth sicrahodd alltudiad Pierre, ac ni chlywyd rhagor amdano. Bu farw'r rheithor, ond yn hydref 1814 daeth cnoc ar ddrws y tŷ, a dyna ble safai Pierre - wedi dychwelyd fel Capten, ar ôl iddo dderbyn y ''Legion d’Honneur'' gan Napoleon ei hun. gyda selsêl bendith ei mam, aeth y ddau i Ffrainc i fyw. Yn 1908 daeth Ffrancwr i Lanfyllin ar ymweliad - William Augeraud, gor-ŵyr Pierre.
 
==Pobl o Lanfyllin==